Gwir Gymru
Mae un o ymgyrchwyr amlycaf Gwir Gymru wedi dweud wrth Golwg360 eu bod nhw’n bwriadu “cyfarfod mewn tuag wythnos” er mwyn trafod dyfodol y mudiad.

Mae’r mudiad, a oedd yn ymgyrchu yn answyddogol o blaid pleidlais ‘Na’ yn y refferendwm ar ragor o ddatganoli, wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu dal ati.

“Mae lot yn dibynnu ar sut mae’r cyhoedd yn ymateb i awgrymiadau Carwyn Jones,” meddai Nigel Bull o’r mudiad wrth Golwg360.

“Dydyn ni heb benderfynu ar ddyfodol y grŵp eto – mae yna lawer iawn i’w drafod,” meddai.

Ychwanegodd ei fod bellach yn ystyried gwneud cais am yrfa ym myd gwleidyddiaeth ei hun, er ei fod “yn troi lifrau peiriant yn hytrach na lifrau pŵer ar hyn o bryd”.

“Mae’n bosib y byddai’n rhaid i mi gyfaddawdu yn ormodol pe bawn i’n ymuno â phlaid. Dyna’r unig anhawster sydd gen i.

“Fe fydd yn ddiddorol gweld a fydd Gwir Gymru yn cael unrhyw effaith ar Etholiadau’r Cynulliad.”

‘Dim lles’

Dywedodd nad oedd yn credu fod protest y Gymdeithas dros y penwythnos wedi “gwneud unrhyw les i’w hachos”.

Roedd ymgyrchwyr wedi torri i mewn i swyddfeydd y Torïaid yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yn rhan o’u hymgyrch yn erbyn toriadau i gyllideb S4C.

“Maen nhw’n ymosod ar rywun ag ychydig iawn o ddylanwad,” meddai.

“Rydan ni mewn amseroedd anodd iawn ac mae S4C yn cael ei chyllido’n dda o ystyried nifer y bobl sy’n gwylio’r sianel.

“Pe bawn i’n mynd a thargedu’r Cynulliad heddiw am fy mod i wedi colli’r bleidlais, fe fyddai hynny’n tanseilio democratiaeth.”