Neuadd y sir - 'newidiadau ar y ffordd'
Roedd y bleidlais ar gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn arweinwyr Cyngor Sir Gâr yn fuddugoliaeth fawr er iddi fethu.

Dyna ddywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths wrth Golwg360 ar ôl gweld y cynnig i gael pleidlais yn cael ei guro o 41 i 28.

Mae wedi darogan y bydd y trafodaethau yn y cyngor heddiw yn ddechrau ar ail-drefnu mewnol.

‘Newidiadau’ ar y ffordd

“Er i ni golli’r bleidlais, mae’n fuddugoliaeth fawr i ni,” meddai Peter Hughes Griffiths, arweinydd Plaid Cymru ar y cyngor.

Yn dilyn y canlyniad heddiw, fe benderfynodd y cyngor y bydd yr arweinydd Kevin Madge yn sefydlu grŵp trawsbleidiol er mwyn craffu ar brosesau’r cyngor.

Roedd y cynnig am bleidlais o ddiffyg hyder yn rhan o drafodaeth ehangach pan gafodd cynnwys dau adroddiad damniol gan Swyddfa Archwilio Cymru eu ‘nodi’.

Roedd y rheiny’n cyhuddo cabinet y cyngor o weithredu’n anghyfreithnlon tros daliadau cylfog a phensiwn i’r Prif Weithredwr, Mark James, a thros dalu ei gostau mew nachos enllib yn erbyn etholwr.

‘Arweinydd wedi gorfod cydnabod’

Fe fyddai’r bleidlais o ddiffyg hyder wedi cael gwared ar arweinydd y cyngor Kevin Madge, a’i ddirprwyon, y cynghorwyr Meryl Gravelle a Pam Palmer, tros eu rhan nhw yn yr helynt.

“Mae arweinydd y cyngor wedi gorfod cydnabod camgymeriadau ynglŷn â’r materion a gafodd eu trafod, yn bennaf y pensiwn,” meddai Peter Hughes Griffiths.

“Nawr fe fydd cyfnod o ail-baratoi ac ail-strwythuro’r cyngor.

“Mae’n fuddugoliaeth fawr fod y cyngor yn mynd i fod yn dryloyw a pheidio â gweithredu tu ôl i ddrysau caeedig. Roedd eu prosesau nhw’n anghywir.”