Ysbyty Plant Bryste
Cafodd “sawl cyfle ei golli”  i roi cymorth yn gynt i fabi fu farw ar ôl i’w offer anadlu gael ei dynnu, meddai crwner heddiw.

Cafodd Rohan Rhodes o Arberth yn Sir Benfro ei eni 15 wythnos yn gynnar yn Ysbyty Singleton yn Abertawe ar 27 Awst, 2012.

Cafodd offer anadlu ei ddefnyddio pan gafodd ei eni a chafodd ei roi yn uned gofal dwys yr ysbyty ar gyfer babis newydd lle’r oedd meddygon yn credu ei fod yn “gwneud yn dda.”

Cafodd Rohan wedyn ei symud i Ysbyty St Michael’s ym Mryste er mwyn cael ei asesu am lawdriniaeth ar ei galon.

Mae’r ysbyty yn yr un ymddiriedolaeth ag Ysbyty Plant Bryste, sy’n rhan o ymchwiliad i wasanaethau’r galon i blant sydd wedi cael ei alw gan Syr Bruce Keogh, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaethau Iechyd Lloegr.

Clywodd y cwest mai bwriad y tîm meddygol yno oedd cadw Rohan ar yr offer anadlu cyn iddo gael llawdriniaeth.

Ond fe benderfynodd y nyrs Amanda Dallorzo i dynnu’r offer oddi wrth Rohan heb ymgynghori ag unrhyw un arall, a defnyddio mwgwd anadlu yn lle.

Roedd ei gyflwr wedi dirywio’n gyflym ar ôl hynny a bu farw, yn 36 diwrnod oed, yn yr ysbyty. Bu farw o ganlyniad i beritonitis a niwmonia a’r ffaith ei fod wedi ei eni’n gynnar.

Roedd y crwner Maria Voisin wedi cofnodi rheithfarn naratif yn dilyn y cwest oedd wedi para am dridiau.

Dywedodd y dylai profion gwaed fod wedi cael eu cynnal i asesu cyflwr Rohan, ond nad oedan nhw wedi cael eu gwneud gan arwain at “golli cyfleoedd” i roi cymorth meddygol yn gynt i’r babi.

Roedd ei rieni, Alex a Bronwyn Rhodes eisoes wedi dweud wrth y cwest eu bod nhw’n bryderus o’r cychwyn am y gofal a gafodd eu mab ym Mryste.

Clywodd y cwest hefyd bod ’na brinder staff ar y ward pan gyrhaeddodd Rohan yr ysbyty.

Mae teulu Rohan yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn dilyn y cwest ac yn dweud bod angen “newidiadau systemig” yn Ysbyty St Michael’s.

Dywedodd Bronwyn Rhodes: “Roedd Rohan wedi dioddef yn enbyd yn ystod ei oriau olaf ac rydym yn gobeithio na fydd plant eraill yn gorfod dioddef yn y ffordd y gwnaeth o.”