Rhys Mwyn
Does dim pwynt i’r Cymry gwyno o hyd am golli eu treftadaeth – rhaid iddyn nhw “hawlio perchnogaeth” a newid y sefyllfa.

Dyna farn yr archeolegydd poblogaidd Rhys Mwyn, a fydd yn arwain taith hanesyddol o gwmpas Caernarfon ar Fawrth 1 yn ystod Gŵyl (Dewi) Arall.

Does dim pwynt, meddai, i ni roi bai ar y gyfundrefn addysg am y ffaith nad yw llawer ohonon ni’n gwybod mai Segontium oedd y brif gaer yng ngogledd Cymru – neu fod castell Dolbadarn yn Llanberis wedi cael ei adeiladu gan Dywysog Cymreig, sef Llywelyn Fawr.

“Mae yna seicoleg fan hyn,” meddai Rhys Mwyn, sy’n gweithio yn achlysurol i Ymddiriedolaeth Archeoleg Gwynedd ac yn rhedeg cyrsiau ar gyfer CADW ac Archeolegwyr Anturus Eryri.

‘Esgusodion’

“Chawson ni ddim hanes Cymru yn yr ysgol. Rydan ni wedi cael ein gormesu ers 1282. Mae’r holl ystrydebau yma yn dod allan.

“Beth am i ni gymryd nid yn unig cyfrifoldeb ond perchnogaeth o hyn i gyd? Ni bia’r darn yma o dir fel Cymru. Ni ydi’r bobol sy’n byw yma. Dw i ddim eisio clywed esgusodion bod y system addysg fel hyn neu fel arall, mae o i fyny i ni. Mae o yna i ni ei ddarganfod, i ni ei werthfawrogi.”

Ers iddo ef ac eraill godi’r ffôn ar CADW bedair blynedd yn ôl i ddweud bod hen gaer Segontium yn cael ei hanwybyddu, mae “bob dim” wedi newid, meddai.

“Dim trwy gwyno ond trwy wneud. Beth oedden ni yn ei ddweud reit o’r dechrau un oedd bod eisio i’r gymuned leol gael perchnogaeth o’r lle yna. Rydan ni wedi gwneud gweithdai coginio Rhufeinig efo trigolion Maes Barcer. Rydan ni wedi cael pobol Maes Barcer yn gwirfoddoli pan fydd yna ddyddiau agored yna.

“Mae o fyny i ni hawlio’r berchnogaeth yna. Peidio â dweud ‘o, cestyll Edward I.’ Bellach dydi o ddim yn gweithio. Mae o i gyd yn rhan o hanes lle ydan ni. Fedrwn ni ddim defnyddio 1282 fel esgus ein bod ni ddim yn cymryd sylw o Ddolbadarn, Dolwyddelan, Castell y Bere – sef cestyll Tywysogion Gwynedd. Rydan ni dros y blynyddoedd wedi creu esgusodion drwy’r amser.

‘Rhaid i ni fod yn rhan o’r peth’

“Rydan ni wedi cael ein datganoli. Mae’r arian yma’n dod trwy Lywodraeth Cymru trwy gyrff fel Cadw. Mae gynnon ni fodd i effeithio ar hyn a newid hyn os ydan ni’n credu yn yr hyn ni’n credu ynddo fo. Rydan ni’n rhan o’r peth. Fedrwn ni ddim dal a dal i gwyno. Rhaid i ni fod yn rhan o’r peth a newid o.”

Ar hyn o bryd, mae’n rhedeg cyrsiau i bobol ddi-waith yng Nghanolfan Cae’r Gors, hen gartref yr awdur Kate Roberts, sy’n eiddo i CADW bellach, yn ogystal ag ar safle Segontium.

“Nid yn unig rydan ni yn eu hyfforddi nhw i dywys o amgylch y safle, ond i ddysgu am dreftadaeth yn gyffredinol. Rydych chi’n rhoi sgiliau cyflwyno, hyder, ymchwilio, bob dim iddyn nhw.”


Rhys Mwyn yn cloddio
Mae yna rai ardaloedd o Gymru sydd wedi llwyddo i “ailberchnogi” eu hanes, meddai. Fe fydd trigolion Pen Llŷn yn heidio i’r sesiynau cloddio sy’n digwydd bob haf ym Meillionydd, Rhoshirwaun yn rhan o Ŵyl Archeoleg Prydain.

“Maen nhw i gyd yn siarad Cymraeg,” meddai Rhys Mwyn. “Maen nhw i gyd o Fryncroes, Sarn a Botwnnog ac maen nhw i gyd yna yn damcaniaethu be oedd pobol yn ei wneud yn yr Oes Efydd a’r Oes Haearn. Gwych.

“Mae pobol Pen Llŷn wedi gallu ail-berchnogi’r peth. Maen nhw’n sylweddoli ‘y ni bia fo, rydan ni mewn’. Dim nonsens. Mae o’n digwydd.”

O roc i archeoleg

Daeth Rhys Mwyn yn enwog trwy deithio Cymru ac Ewrop gyda’i grŵp roc pync Yr Anhrefn yn yr 1980au.

Bu’n rhedeg ei gwmni hyrwyddo grwpiau pop ei hun cyn troi yn ôl at bwnc ei radd prifysgol, Archeoleg. Mae wedi arfer â chorddi’r dyfroedd wrth drafod y Sin Roc Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg yn ei golofn yn yr Herald Gymraeg neu ar y cyfryngau.

“Yn aml bydd pobol yn dweud ‘rwyt ti wedi symud i gyfeiriad gwahanol’,” meddai. “Ddim go iawn. Mi fydda i’n dweud yr un peth. Beth ydan ni’n ei wneud ydi deall pwy ydan ni, ein perthynas â’r lle yma, yn deall hyn i gyd. Rydych chi’n dod yn well dinesydd mewn un ystyr trwy ddeall pwy ydych chi. Rydych chi’n mynd i barchu’r lle, y dirwedd, yr iaith a’r diwylliant… mae’r holl beth yn cyd-blethu.”

‘Agor ein llygaid’

Dydyn ni “fel cenedl” ddim wedi gwneud y gorau o’n hanes na’n diwylliant, yn ôl Rhys Mwyn.

“Y peth cynta’ i’w wneud ydi agor ein llygaid a gweld beth sydd yna o’n hamgylch ni, a cheisio adnabod y dirwedd,” meddai. “Fedrwn ni ddim gwahanu yn fan hyn rhwng yr iaith, diwylliant, tirwedd a henebion – mae o i gyd yr un peth. Bod yn agored i le ydan ni a phwy ydan ni.

“Rydan ni angen ail-ddarganfod beth ydi’n Cymreictod ni rŵan, a rhaid i’r Cymreictod yna rŵan fod yn llawer mwy eang. Pan ydan ni’n sefyll ar y Maes yn gwneud ein teithiau Rhufeinig, beth ydan ni’n ei drafod ydi pam eich bod chi’n clywed y Gymraeg ym mhob man yn fan hyn mewn tref Seisnig, Normanaidd yn wreiddiol. Mae elfen ddiwydiannol y llechi i gyd yn rhan ohono fo. Dydi o ddim allan o gyd-destun; mae o i gyd yna.”

  • Taith hanesyddol yng nghwmni Rhys Mwyn, Gwesty’r Castell, Caernarfon Sadwrn, Mawrth 1, 2pm
  • Holl ddigwyddiadau Gŵyl (Dewi) Arall, Caernarfon ewch i <http://palasprint.com/custom-images/rhaglengwyldewi14we02.pdf>