Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi mynegi pryderon unwaith eto am gleifion yn marw tra’n aros am lawdriniaethau ar y galon.

Mae’r Coleg wedi ysgrifennu at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gofyn pa gamau sydd wedi cael eu cymryd i wella’r sefyllfa yn ne Cymru.

Chwe mis ers iddyn nhw fynegi pryderon am ddiogelwch cleifion oherwydd amseroedd aros hir, maen nhw’n dal i aros am gyhoeddi dau adroddiad ar y mater.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, mewn llythyr at yr Arolygiaeth, roedd llawfeddygon wedi dweud bod y sefyllfa yn un difrifol, a bod nifer fawr o gleifion yn marw tra’n aros am lawdriniaeth yn y ddau ysbyty yn y de sy’n perfformio  llawdriniaethau ar y galon sef Ysbyty Treforys, Abertawe ac Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Llawfeddygon roedd ffigurau a gyhoeddwyd gan brif weithredwr Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn dangos bod  cyfradd y marwolaethau yn uwch na’r disgwyl a bod hyn o ganlyniad i amseroedd aros hir.

Ym mis Awst fe ymatebodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru drwy ddweud eu bod yn ymchwilio i’r mater ac yn gweithio gyda byrddau iechyd yn y de a Llywodraeth Cymru. Roedd yr Arolygiaeth wedyn am benderfynu a oedd angen ymchwil pellach.

Cafodd dau arolwg eu lansio, ond nid yw’r adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn.

Mae’r Coleg wedi ysgrifennu eto at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn gofyn am ymateb i’w pryderon.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd  camau i wella gwasanaethau ar gyfer cleifion.

‘Dim digon da’

Ond wrth ymateb i bryderon llawfeddygon, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: “Dydy ymateb araf Llywodraeth Lafur Cymru i bryderon difrifol gan lawfeddygon fod pobol yn marw oherwydd ffaeleddau rheoli yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn syml iawn, ddim yn ddigon da.

“Nid yn unig mae aros am lawdriniaeth ar y galon yn achosi pryder i gleifion a’u teuluoedd, ond hefyd mae amseroedd aros yn cael effaith uniongyrchol ar ganlyniadau positif ac a fydd y claf yn goroesi.

“Mae agwedd gweinidogion Llafur a phenaethiaid y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn ‘ffwrdd-â-hi’ wrth wrthod galwadau am ymchwiliad i gyfraddau marwolaethau uchel mewn ysbytai ac mae’n ymddangos eu bod nhw wedi bod yr un mor ddifater ynghylch pryderon gwirioneddol Coleg Brenhinol y Llawfeddygon.

“Rhaid cymryd y pryderon hyn o ddifri gan eu bod nhw’n cynnig tystiolaeth bellach am yr angen i gynnal ymchwiliad tebyg i Keogh i gyfraddau marwolaethau uchel mewn ysbytai yng Nghymru er mwyn nodi ac ymdrin â ffaeleddau er mwyn dechrau codi safonau.”