Cheryl Gillan
Fe fydd gan Ysgrifennydd Cymru’r hawl i ddiddymu neu ddiwygio unrhyw ddeddfau sy’n cael eu creu gan y Cynulliad.

Mae hynny er gwaethaf pleidlais ‘Ie’ ddydd Iau o blaid rhoi’r grym i’r Cynulliad greu deddfau heb orfod gofyn am ganiatâd San Steffan.

Yn ôl pennaeth polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol, Ben Lloyd, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Ysgrifennydd Cymru newid neu ddiddymu cyfreithiau sy’n cael eu creu yng Nghymru.

Yn ôl y ddeddf fe fyddai angen i’r ddau dŷ yn San Steffan roi caniatâd cyn bod Ysgrifennydd Cymru yn cael diwygio neu ddiddymu cyfraith Cymru.

“Roedd pobol wedi penderfynu yn y refferendwm eu bod nhw eisiau i’r Cynulliad allu creu ei ddeddfau ei hun heb ganiatâd San Steffan,” meddai Ben Lloyd yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol dros y penwythnos.

“Ond mae’r adran yma o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi’n amlwg bod gan San Steffan yr hawl i ddiwygio deddfau’r Cynulliad.

“Rydw i’n siŵr y bydd Llywodraeth San Steffan yn mynnu nad ydyn nhw’n bwriadu defnyddio’r ddarpariaeth, ond os felly ni ddylai fod ar y llyfr statud.

“Rydyn ni eisiau i ran yma’r ddeddf gael ei diddymu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru mai’r llywodraeth Lafur flaenorol oedd wedi cyflwyno’r ddeddfwriaeth.

Ychwanegodd na fyddai Llywodraeth San Steffan yn mynd ati i ymyrryd â chyfreithiau sydd wedi eu creu yng Nghaerdydd.

Mae’n debyg bod y ddeddf sy’n rhoi’r grym i Senedd yr Alban greu deddfau hefyd yn cynnwys yr un ddarpariaeth.