Llwybr Arfordir y Mileniwm yn Llanelli - mae wedi cael ei ddifrodi sawl tro gan y tonnau
Mae glannau de Cymru ymhlith yr ardaloedd yng ngwledydd Prydain sydd mewn mwya’ o beryg o effeithiau newid hinsawdd, yn ôl adroddiad newydd.

Ac mae pobol mewn lle fel Llanelli’n disgwyl y bydd rhan helaeth o’r dre’ o dan ddŵr o fewn tua hanner can mlynedd.

Mae ardaloedd o’r fath, sydd eisoes yn diodde’ oherwydd cyni ariannol, yn wynebu anawsterau mawr wrth geisio gwrthsefyll y peryg, meddai’r adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree.

Ac maen nhw’n rhybuddio’r Llywodraeth yn Llundain rhag gadael gormod yn nwylo’r cymunedau eu hunain, gan ddweud y bydd angen cymorth o’r canol i ddatrys y problemau.

Y cefndir

Roedd yr ymchwilwyr wedi edrych ar yr wybodaeth wyddonol sydd ar gael ac wedi nodi bod arfordir y De yn un o bump ardal trwy wledydd Prydain sydd mewn peryg mawr.

Roedden nhw wedi ystyried prif effeithiau newid hinsawdd rhwng hyn a 2080, gan gynnwys cynnydd yn lefel y môr, rhagor o stormydd, rhagor o law, erydu a rhagor o gyfnodau o wres eithafol.

Mae gogledd a gorllewin gwledydd Prydain yn debyg o ddiodde’n arbennig oherwydd rhagor o law, medden nhw.

Effaith ar iechyd

Mae’r adroddiad yn rhybuddio y bydd y newid yn cael effaith ar iechyd – yn enwedig pobol sydd eisoes yn afiach neu rai sy’n diodde’ pwysau meddwl oherwydd llifogydd.

Yn ôl grŵp ffocws yn Llanelli, mae pobol oedrannus hefyd mewn peryg ond nhw sydd leia’ tebyg o gael gafael ar yr wybodaeth a’r cymorth angenrheidiol.

Roedd y Sefydliad wedi dewis Llanelli’n benodol oherwydd  y problemau economaidd sydd yno gyda llawer o’r gwaith i adfer tir diwydiannol mewn peryg oddi wrth lefelau’r môr.

Mae’r bygythiad o broblemau newid hinsawdd hefyd yn gallu effeithio ar brisiau eiddo, meddai’r adroddiad.