Protest flaenorol gan y Gymdeithas dros S4C
Fe fydd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith yn ymddangos gerbron llys heddiw wedi eu cyhuddo o fyrgleriaeth, yn ôl y mudiad.

Cafodd y ddau eu harestio ar ôl protest gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn un o swyddfeydd y Blaid Geidwadol yng Nghaerdydd yn gynnar bore ddydd Sul.

Arestiwyd Jamie Bevan 34 o Ferthyr Tudful a Heledd Williams 20 o Nant Peris wedi iddynt dorri i mewn i swyddfeydd y Torïaid yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Dywedodd y mudiad fod y ddau wedi cymryd cyfrifoldeb am y weithred yn syth wedi’r digwyddiad a’u bod nhw’n mynd i ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd heddiw.

Roedd y brotest yn rhan o ymgyrch genedlaethol gan Gymdeithas yr Iaith yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth o dorri ar gyllid S4C a throsglwyddo’r cyfrifoldeb amdani i’r BBC.

Roedd y mudiad wedi targedu’r Ceidwadwyr oedd yn cynnal eu cynhadledd wanwyn yn Stadiwm Swalec Caerdydd gerllaw.

‘Bygythiad difrifol’

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod yr Heddlu wedi gwrthod cadarnhau i rieni Jamie yr union gyhuddiad na beth fydd eu hagwedd at fechnïaeth.

“Dyma’r tro cyntaf yn hanes achosion yn ymwneud ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i ddiffinydd a’i deulu gael eu trin yn y fath fodd,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Gan fod y diffynyddion wedi derbyn yn agored cyfrifoldeb am eu gweithred, buasem wedi disgwyl ymateb mwy synhwyrol gan yr heddlu. Dyma weithred bwysig oherwydd ei bod yn pwysleisio difrifoldeb y bygythiad i unig sianel Gymraeg y byd.”

Cadarnhaodd yr Arolygydd Marion Stevenson o Heddlu De Cymru ddoe i swyddogion gael eu galw i eiddo yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd am 6.55am.

“Cafwyd hyd i ddau o bobl y tu fewn i’r eiddo ac fe gawson nhw eu harestio ar amheuaeth o fyrgleriaeth,” meddai. “Dynes 20 oed o Gaerdydd oedd un, a dyn 34 oed o ardal Merthyr oedd y llall.”