Bae Caerdydd
Mae hyder busnesau yng Nghymru ar ei isaf ers ail chwarter 2009, pan oedd yr economi mewn dirwasgiad, yn ôl canlyniadau arolwg a gyhoeddwyd heddiw.

Yn ôl yr arolwg gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr mae hyder busnesau Cymru ar chwâl.

Roedd y sefydliad wedi gofyn i 70 o bobol busnes pa mor hyderus oedden nhw am y dyfodol.

Dywedodd cyfarwyddwr y sefydliad yng Nghymru, David Lermon, ei fod yn brawf o’r ansicrwydd y mae nifer o fusnesau yng Nghymru yn ei deimlo.

“Mae hyder busnesau yng Nghymru yn amlwg yn fregus,” meddai. “Mae’r twf mewn elw a gwerthiant yn is nag yr oedd cyn y dirwasgiad.”

Roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu fod busnesau yn pryderu nad oedd economi Cymru yn derbyn digon o gefnogaeth a buddsoddiad.

Roedd bron i un mewn pump (18%) yn teimlo bod denu cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad yn ragor o her nag yr oedd 12 mis cyn hynny.

Toriadau

Er gwaetha’r diffyg hyder roedd yr arolwg yn awgrymu fod trosiant cwmnïau o Gymru wedi cynyddu 3.6% dros y 12 mis diwethaf, ar ôl syrthio 1.4% y flwyddyn flaenorol.

Cynyddodd elw a gwerthiant 2.7% a 2.3% yn ystod yr un cyfnod.

Serch hynny dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru fod y “graddfeydd twf yma i gyd yn is nag oedden nhw cyn y dirwasgiad”.

Dywedodd Geraint Davies, partner ym musnes Grant Thornton yng Nghaerdydd, fod busnesau yn pryderu oerwyd maint y toriadau i sector gyhoeddus Cymru.

“Mae gan Gymru sector cyhoeddus mawr ac felly does dim yr un hyder ymysg busnesau ein bod ni’n mynd i allu goroesi’r storm,” meddai.

Y llynedd amcangyfrifodd PricewaterhouseCoopers y gallai 52,000 o swyddi gael eu colli yng Nghymru cyn 2015 o ganlyniad i’r toriadau ariannol.