Fe fydd dyfodol hyd at 15 o gapeli Cymreig ym Mhatagonia’n cael ei ddiogelu yn sgil cytundeb a gafodd ei arwyddo dydd Iau.

Mae llywodraeth talaith Chubut wedi ymrwymo arian i alluogi Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa a Chymdeithas Cwm Hyfryd i wneud gwaith atgyweirio ac ehangu capeli yn y Gaiman, Trelew, Dolavon, Trevelin ac Esquel.

Amcangyfrifir y bydd cyfanswm y gwaith yn costio tua dwy filiwn a hanner o pesos yr Ariannin (tua £380,000).

“Mae’r holl gapeli yma’n cael eu hystyried yn adeiladau hanesyddol yn Nhalaith Chubut,” meddai Luned Gonzales o’r Gaiman, sy’n or-wyres i Michael D Jones, sylfaenydd y Wladfa.

“Mae treigl y blynyddoedd wedi gadael ei ôl ar y capeli, ac mae arnynt angen gwahanol raddau o atgyweirio,” esboniodd.

Yn ogystal, mae un capel, Seion Bryn Gwyn ger y Gaiman, wrthi’n cael ei atgyweirio’n barod gydag arian o goffrau llywodraeth Buenos Aires gan ei fod ar restr adeiladau hanesyddol cenedlaethol.