David Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd a Gweinidog yn Swyddfa Cymru
Mae trefn gynllunio gwlad a thref Cymru’n rhwystr i dwf economaidd, yn ôl y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones.

Wrth alw am lacio rheolau cynllunio mewn trafodaeth ar dwf rhanbarthol yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghaerdydd, meddai:

“Mae system gynllunio Cymru’n mynd yn fwyfwy biwrocrataidd a bydd yn parhau i golli tir yn erbyn system Lloegr pan fydd mesur newydd yn dod i rym yn rhoi mwy o rym i awdurdodau lleol yno.

“Os bydd system gynllunio Cymru’n dal i fod yn fwy beichus i fusnesau na’r drefn yn Lloegr, bydd yn rhwystr i dwf economaidd.

“Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi eu hymrwymiad i fwy o reoleiddio, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn ffafrio system gynllunio symlach.

“Mae hyn yn ei gwneud hi’n fwy angenrheidiol fyth i Gymru ethol llywodraeth Cynulliad sy’n deall busnes ac sy’n benderfynol o wneud popeth y mae’n ei allu er mwyn cynyddu twf economaidd.”