Cafodd dau o bobl eu harestio ar ôl protest gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn un o swyddfeydd y Blaid Geidwadol yng Nghaerdydd yn gynnar y bore yma.

Roedd criw o aelodau’r Gymdeithas wedi torri i mewn i swyddfa Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd, Jonathan Evans, lle cafodd slogan ei baentio yn galw am sicrhau dyfodol S4C.

Mae’r brotest, a gafodd ei hamseru i gyd-redeg â chynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghaerdydd, yn rhan o ymgyrch genedlaethol gan Gymdeithas yr Iaith yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth o dorri ar gyllid S4C a throsglwyddo’r cyfrifoldeb amdani i’r BBC.

Honiad y Gymdeithas yw fod y Llywodraeth a’r BBC yn cydweithio ar gynllun a fyddai’n gael gwared ar S4C.

“Mae’r weithred heddiw yn dangos difrifoldeb y sefyllfa a’r awydd sydd gan bobl i frwydro yn erbyn bygythiadau i’n sianel Gymraeg,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams.

“Mae’n hymgyrch yn mynd o nerth i nerth a byddwn yn parhau nes i ni gael sicrwydd o annibyniaeth S4C a chyllid digonol mewn statud i alluogi hynny.”

Cadarnhaodd yr Arolygydd Marion Stevenson o Heddlu De Cymru i swyddogion gael eu galw i eiddo yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd am 6.55am.

“Cafwyd hyd i ddau o bobl y tu fewn i’r eiddo ac fe gawson nhw eu harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth,” meddai. “Dynes 20 oed o Gaerdydd oedd un, a dyn 34 oed o ardal Merthyr oedd y llall.”