Elin Jones
Mae Plaid Cymru wedi gwrthod syniadau Llywodraeth Prydain ynglŷn â rhoi pwerau trethu i’r Cynulliad.

Cyn gwneud hynny, mae angen newid Fformiwla Barnett sy’n rhoi arian i Gymru yn y lle cynta’, meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu’r blaid.

Roedd Elin Jones, sydd hefyd yn Weinidog Materion Gwledig yn y Llywodraeth, yn ymateb i gyhoeddiad gan Ddirprwy Brif Weinidog Prydain y bydd Comisiwn yn cael ei sefydlu i ystyried rhoi hawl i Gymru godi peth o’i threthi ei hun.

“Mae cyhoeddiad Clegg yn awgrymu y bydd y Comisiwn yn ddiffygiol a chwbl ddi-barch o’r dechrau,” meddai. “Mae cyllideb Cymru £1.4 biliwn yn llai nag y dylai fod oherwydd methiant Llafur i newid y system yn ystod eu 13 blynedd mewn grym.”

Roedd hi’n dweud bod y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n cefnogi’r syniad o ddiwygio Fformiwla Barnett ond nad oedd eu pleidiau yn Llundain yn gwneud dim.