Y wefan ... ond fawr o bwynt 'galw'
Mae llai na 1% o bobol yn gofyn am siarad gyda pherson Cymraeg wrth alw llinell ffon Galw Iechyd Cymru am gyngor meddygol.
Dyna y mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru am chwarter ola’r flwyddyn 2013 yn eu hawgrymu.
Ond mae Golwg360 wedi darganfod pam – mae’r gwasanaeth Saesneg ar gael yn hawdd; y prynhawn yma o leia’ doedd yr un Cymraeg ddim ar gael o gwbl.
Llinell Gymraeg NHS Direct by Golwg-360
Yr ystadegau
Rhwng dechrau mis Hydref a diwedd mis Rhagfyr fe gafodd 73,881 o alwadau eu gwneud i wasanaeth Galw Iechyd Cymru ac yn ol y Llywodraeth, 415 (0.56%) o’r rheiny oedd gan bobol oedd eisiau trafod yn y Gymraeg.
Mae hynny deirgwaith yn llai nag yn yr un cynfod yn 2012, pan wnaed 77,853 o alwadau a 1330 (1.7%) yn cael eu hateb yn Gymraeg.
Mae’r llinell ffon 24 awr cynnig gwybodaeth a chyngor ar gyfer delio gdag achosion meddygol sydd ddim yn rhai argyfwng.
Yr esboniad
Wrth ffonio’r llinell 24 awr, mae cyfarchiad Cymraeg a Sasneg ac yna dewis i bwyso botwm rhif 1 os am siarad gyda gweithiwr yn Gymraeg.
Y prynhawn yma, ar ol pwyso botwm rhif 1 roedd llais yn dweud nad oedd cynghorydd Cymraeg ar gael ac y byddai’r alwad yn cael ei chyfeirio i gynghorydd di Gymraeg, “i arbed unrhyw oedi”.
Mae Golwg360 wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg am sylw – yn y gorffennol, mae Meri Huws wedi pwysleisio bod rhaid i wasanaeth Cymraeg fod ar gael yr un mor hawdd ag un Saesneg.
Ymateb Llywodraeth Cymru oedd cyfeirio ymholiadau at Galw Iechyd Cymru – ryden ni’n aros hefyd am ymateb ganddyn nhw.