Carwyn Jones
Mae dros fil o bobl wedi cymryd rhan mewn protest gan TUC Cymru yng Nghaerdydd yn erbyn toriadau llywodraeth Prydain.

Yn eu plith roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a ymunodd â swyddogion undeb mewn digwyddiad a oedd wedi ei drefnu i gyd-redeg â chynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr Cymreig yng ngherddi Sophia heddiw.

“Mae’r Brotest yn y Parc wedi anfon neges glir i’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod nhw’n torri’n rhy gyflym ac yn rhy ddwfn – rhywbeth nad yw er budd Cymru,” meddai.

“Mae eu trefn o doriadau’n gosod ein hadferiad economaidd mewn perygl. Mae gwledydd eraill, fel America’n gwella’n llawer cyflymach na ni, am y rheswm syml eu nhw wedi penderfynu peidio â dilyn esiampl George Osborne.”

Fe ddigwyddodd y brotest tua hanner dydd, ac fe wnaeth hi barhau am tuag awr. Roedd rhai protestwyr wedi ceisio mynd i mewn i’r stadiwm lle’r oedd y Canghellor George Osborne yn annerch. Ond fe gawson nhw eu rhwystro rhag mynd i dir y stadiwm gan blismyn a swyddogion diogelwch.