Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Prydain yn ystyried ffyrdd o drosglwyddo rhywfaint o gyfrifoldebau ariannol i’r Cynulliad.

Wrth siarad yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghaerdydd, dywedodd fod angen i wleidyddion y Cynulliad fod yn fwy atebol am yr arian sy’n cael ei wario ganddyn nhw.

“Fe fydd y Llywodraeth yn edrych ar sut y mae’r Cynulliad yn cael ei ariannu,” meddai.

“Fe fyddaf yn edrych ar sut i ddod â mwy o atebolrwydd am faterion ariannol i Gymru.

“A byddaf yn chwilio am ffyrdd i etholwyr Cymru wybod bod y Cynulliad yn gwbl atebol am yr arian y maen nhw’n ei wario.”

Mae ei sylwadau’n dilyn cyhoeddiad gan y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg y bydd y Llywodraeth yn sefydlu comisiwn i edrych ar drethu yng Nghymru – tebyg i Gomisiwn Calman sydd wedi argymell hawliau codi trethi i Senedd yr Alban.

Datganoli o fewn Cymru

Yn ystod ei haraith, pwysleisiodd Ysgrifennydd Cymru fod yn rhaid i ddatganoli beidio â stopio yng Nghaerdydd.

“Mae gwir ddatganoli’n golygu galluogi pobl ym Mangor, Llanfair ym Muallt, Caerfyrddin a Chas-gwent i gymryd rheolaeth o’u bywydau eu hunain,” meddai.

“Mae arnon ni eisiau i ddatganoli weithio er budd pawb – a hynny wedi ei atgyfnerthu gan ein hymrwymiad i’r undeb.

“Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig lle mae Llafur yn dal mewn grym. Ac os gweithiwn ni bawb gyda’n gilydd gallwn sicrhau nad dyma’r lle y gall Llafur ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer adfywiad ledled y Deyrnas Unedig.”