Alex Salmond, prif weinidog yr Alban
Wrth groesawu canlyniad y refferendwm yng Nghymru, mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi llongyfarch pobol Cymru a Phlaid Cymru ar ‘ganlyniad rhagorol’.

“Dw i’n llongyfarch pobl Cymru ar eu penderfyniad i symud pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol ymlaen – mae’n ganlyniad gwych i’r bobl ac i Blaid Cymru,” meddai arweinydd eu chwaer blaid, yr SNP.

“Dylai Ieuan Wyn Jones a’i dîm deimlo’n falch iawn am sicrhau cynnal y refferendwm yma ac am sicrhau canlyniad mor rhagorol.

“Maen nhw’n mynd ymlaen i’r etholiad gyda’r uchelgais i symud Cymru ymlaen a’r pwerau i wneud y gwaith.

“Dw i’n dymuno’r gorau iddyn nhw yn yr ymgyrch sy’n dod ac yn edrych ymlaen at lywodraethau cadarnhaol a blaengar gan yr SNP a Phlaid Cymru’n cael eu hethol gan bobl yr Alban a Chymru ym mis Mai.”