Mae ansicrwydd ynghylch cytundeb mawr gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfieithu i’r sector cyhoeddus – oherwydd bod cymaint o’r cyfieithwyr a wnaeth gais amdano wedi methu rhai o’r profion.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gawson nhw lythyr gan adran y Llywodraeth sy’n prynu gwasanaethau yn dweud nad oedd yna ddigon ohonyn nhw wedi llwyddo gyda’r profion cyfieithu ysgrifenedig o’r Saesneg i’r Gymraeg.

O ganlyniad, mae’r Llywodraeth yn gorfod gohirio’r broses gyfan a chynnal rhai o’r profion eto.

Y broses

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r Llywodraeth wedi bod wrthi’n paratoi Cytundeb Fframwaith, a fydd yn creu pwll o gwmnïau i ddarparu gwasanaeth cyfieithu canolog i gyrff cyhoeddus sy’n dewis bod yn rhan ohono.

Roedd yr ymgeiswyr yn gorfod bod yn aelodau o gorff proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr – fel aelodau ‘cyflawn’ o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef rhai sy’n dal cymhwyster uchaf y Gymdeithas honno, neu o’r ITI (Y Sefydliad Cyfieithu a Chyfieithu ar y pryd).

Roedd y cytundeb i fod am gyfnod o bedair blynedd ac i fod i ddechrau ym mis Ionawr. Bellach, mae wedi’i ohirio tan o leiaf ddechrau’r haf

Ail brawf

Dywed y llythyr mai’r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i ddatrys y broblem yw gorfodi pawb i gymryd ail brawf ar ôl “cael adborth … [a fydd yn] tynnu sylw at gamgymeriadau a gwendidau cyffredin yn y profion gwreiddiol”.

Mewn penderfyniad sy’n debyg o beri siom i ymgeiswyr a lwyddodd yn y profion, fe fyddan hwythau hefyd yn gorfod sefyll ail brawf – a chanlyniadau eu prawf cyntaf yn cael eu diystyru.

“Dim ond canlyniadau’r ail brofion a gaiff eu hystyried fel sail i ddyfarnu Cytundebau ar gyfer pob un o’r lotiau hyn,” medd y llythyr.

Mae’n diweddu trwy fynegi gobaith y bydd digon o ymgeiswyr yn gwneud yn well yr ail dro er mwyn dyfarnu’r Fframwaith yn y gwanwyn.

Meini prawf yn “gadarn”

Dywedodd Geraint Wyn Parry, prif weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, bod y canlyniadau yn rhai “siomedig” ond  ychwanegodd fod ganddo hyder yn arholiadau’r Gymdeithas.

Meddai Geraint Wyn Parry: “Mae meini prawf y Gymdeithas ar gyfer arholi ac asesu yn rhai cadarn ac yn rhai yr ydan ni’n ddigon hyderus ynddyn nhw. Mae’r canlyniadau yma’n siomedig ond eto dydyn nhw ddim yn adlewyrchiad ar feini prawf y

Gymdeithas.

“Mae’n rhaid cymryd i ystyriaeth, er bod y cyfieithwyr sydd wedi cysylltu â ni yn siomedig, maen nhw  wedi gwneud gwaith cyfieithu i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn barod. Tydyn nhw erioed wedi cael sylw beirniadol o’r blaen.”

Mae’r Llywodraeth yn dweud mai nod yr ail eistedd yw sicrhau bod digon o gwmnïau ar gael i gyrff cyhoeddus allu dewis o’u plith.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

“Rydyn ni wedi penderfynu dirwyn y broses gaffael ar gyfer y Fframwaith Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn ôl i gam y prawf ar gyfer y Lotiau cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg, a hynny er mwyn sicrhau digon o adnodd i’r Cleientiaid a fydd yn defnyddio’r Cytundeb Fframwaith newydd.

“Nid cynnal ail broses gaffael mo hyn, ond yn hytrach ddirwyn y broses yn ôl i gam y prawf, gan osod prawf newydd sbon ar gyfer pawb sydd wedi tendro am y gwaith cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Ac o benderfynu gwneud hynny, mae’n ofynnol i bob tendrwr sefyll ail brawf, gan fod y broses brofi wreiddiol yn cael ei disodli gan yr ail broses brofi.”