Y flwyddyn nesaf, bydd 50 mlwyddiant boddi pentref  Capel Celyn ond nid cymunedau yng Nghymru yn unig a gollwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Gwynedd yn cynnal  cystadleuaeth farddoni mewn cydweithrediad gyda gwasanaeth llyfrgell dwy ardal arall lle boddwyd pentrefi yn ystod y ganrif ddiwethaf –  gogledd Lanark yn Yr Alban a Cumbria yn Lloegr.

Mae dwy gystadleuaeth, un ar gyfer cerdd Gymraeg ac un ar gyfer cerdd Saesneg.

Yng Ngwynedd, mae pawb sy’n aelodau o lyfrgell Gwynedd, sy’n 14 oed neu’n hŷn, yn cael gwahoddiad i ysgrifennu cerdd a ysgogwyd gan foddi pentref Capel Celyn ger Y Bala yn 1965.

Y nod yw atgoffa pobl o’r digwyddiadau hyn, y dreftadaeth ddiwylliannol a gollwyd a theimladau yn y gymuned ar y pryd.

Y Prifardd Twm Morys fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth Gymraeg, a bydd y gerdd fuddugol yn ymddangos yn rhifyn haf y cylchgrawn barddoniaeth, Barddas.

Bardd Cenedlaethol Yr Alban Liz Lochhead a Nicky Wire o’r band y Manic Street Preachers fydd yn beirniadu’r gystadleuaeth Saesneg. Bydd y gerdd orau yn Saesneg yn cael ei throi’n gân gan y band enwog o’r Alban, Mogwai.

Gall ymgeiswyr gyflwyno eu cerdd mewn unrhyw lyfrgell yng Ngwynedd (gyda’u henw, oed, manylion cyswllt a rhif cerdyn Llyfrgell) neu mewn e-bost at llyfrgell@gwynedd.gov.uk – gan nodi ‘Cystadleuaeth Pentref a Foddwyd’ fel teitl yr e-bost. Y dyddiad cau yw 24 Chwefror 2014.