Nick Clegg
Fe fydd y Llywodraeth yn San Steffan yn symud ymlaen ar unwaith i ddechrau rhoi rhywfaint o  hawliau codi trethi i’r Cynulliad yng Nghymru.

Ar ôl dweud bod y Refferendwm ddydd Iau yn drobwynt yn hanes Cymru, fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg, y bydden nhw’n sefydlu Comisiwn i edrych ar drethu.

Fe fyddai hwnnw’n debyg i Gomisiwn Calman sydd wedi argymell hawliau codi trethi i’r Senedd yn yr Alban.

“R’yn ni’n mynd i weithredu’n fuan i sefydlu proses debyg i Calman i edrych ar rai o’r agweddau ariannol,” meddai Nick Clegg mewn cyfweliad ar Radio Wales. “Dyna fydd y tro nesa’ yn yr olwyn.”

 

Dilyn yr Alban?

 

Yn yr Alban, fe fydd deddf newydd yn rhoi hawliau trethu newydd, gan gynnwys pob lefel o dreth incwm.

Mae’n golygu y bydd y Llywodraeth yng Nghaeredin yn gosod lefel y dreth incwm yno o 2015 ymlaen ond y bydd yr Alban yn colli 35% o’r arian sy’n dod iddi trwy Fformiwla Barnett.

Dyw Llywodraeth yr SNP yng Nghaeredin ddim yn hapus gyda’r syniad hwnnw; maen nhw wedi bod yn galw am reolaeth ariannol lwyr – fe fyddai trefniant Calman fel cael swydd ddydd Sadwrn, medden nhw, yn hytrach na gwaith llawn amser.

Brwydr wleidyddol?

Yng Nghymru, mae’n bosib y byddai newid hawliau trethu yn arwain at frwydr wleidyddol gyda’r Blaid Lafur yn gwrthwynebu. Ddoe fe ddywedodd y cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, y byddai refferendwm ar drethu yn methu.

Cwestiwn allweddol arall fydd treth gorfforaethol – y dreth ar fusnesau – fe fyddai Llywodraeth Cymru’n hoffi cael pŵer felly, er mwyn ei gostwng.

Rhan o resymeg y Llywodraeth yn Llundain yw bod angen rhoi cyfrifoldeb yn ogystal â hawliau i’r llywodraethau sydd wedi datganoli.

‘Dim newid yn Barnett’

 

Heddiw, fe wnaeth  Nick Clegg yn glir na fyddai Llywodraeth San Steffan yn ail-ystyried Fformiwla Barnett, er ei fod yn cydnabod nad yw honno’n deg at Gymru.

“D’yn ni ddim yn mynd i ail agor y broblem anodd honno a ninnau yng nghanol y gwaith o leihau’r diffyg ariannol,” meddai.

Ond mae hefyd yn amlwg y byddai newid Barnett yn golygu llai o arian i’r Alban ac fe fyddai hynny’n creu trafferthion amlwg i glymblaid San Steffan yr ochr arall i Fur Hadrian.

  • Mae Nick Clegg yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol ac mae’r Ceidwadwyr  cynnal cynhadledd wanwyn yno hefyd.