Nigel Owens
Mae’r dyfarnwr o Gymru, Nigel Owens, wedi ymateb i feirniadaeth am ei berfformiad yn gêm yr Alban yn erbyn Iwerddon ar raglen Jonathan heno.

Roedd hyfforddwr yr Alban, Andy Robinson, wedi beirniadu perfformiad Nigel Owens ar ôl y gêm. Enillodd Iwerddon 21-18 er i’r Alban ddod yn ôl yn gryf yn yr ail hanner.

Asgwrn y gynnen oedd penderfyniad Nigel Owens i anfon y prop Allan Jacobsen i’r gell gosb toc wedi hanner amser.

“Doedd e ddim yn gwrando. Os oedd y prop yn gwrando fydde fe ddim wedi mynd i’r bin,” meddai Nigel Owens ar y rhaglen gomedi.

“Roedd y llall yn iawn. Wnaeth y llall fel oedden i’n gofyn iddo fe. Y broblem oedd e.

“Ac nid Albanwyr yw Andy Robinson, ond Sais. A dyna pam mae e’n conan.

“Roedd Keith Wood [y sylwebydd o Iwerddon] yn dweud fod y rheng flaen yn rhy agos, ond roedd pobol eraill yn dweud eu bod nhw’n rhy bell. Sai’n gwybod.

“Se nhw’n bihafio a gwneud beth mae nhw fod i wneud, byddai’n ddim rhaid i ti fecso fydde fe?”