Trenau Arriva Cymru
Fe fydd gyrwyr trenau yn mynd ar streic ar ddiwrnod gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd undeb Aslef y bydd gyrwyr Trenau Arriva Cymru yn mynd ar streic am 24 awr ar 12 Mawrth ar ôl dadl am dâl ac amodau gwaith.

Roedd yr undeb wedi targedu gêm Cymru a Lloegr ddechrau’r mis diwethaf ond cafodd y streic honno ei chanslo ar y funud olaf.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Keith Norman, eu bod nhw bellach wedi cael cynnig gwell gan Drenau Arriva Cymru.

Ond doedd y cwmni ddim yn fodlon i’r undeb bleidleisio ar y mater, ac felly maen nhw wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r streic.

Fe aeth y gyrwyr at streic ddydd Llun a gwahardd gweithio dros eu horiau, sy’n golygu na fydd rhaid gwasanaethau yn rhedeg y penwythnos yma.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru fod y bygythiad newydd i streicio yn “hynod siomedig”, a’u bod nhw wedi cynnig cytundeb newydd “sylweddol” i’r gyrwyr.

Roedden nhw wedi cynnig codiad cyflog 12% dros gyfnod o ddwy flynedd, fyddai’n golygu bod gyrwyr yn ennill £39,117 am shift 35 awr, pedwar diwrnod yr wythnos.

“Mae’n destun pryder mawr fod Aslef wedi penderfynu cyhoeddi streic sy’n bygwth, nid yn unig gwasanaethau, ond enw da Cymru,” meddai  Peter Leppard o Drenau Arriva Cymru.

“Rydyn ni’n ymddiheuro am y streic a’r aflonyddwch y bydd yn ei achosi i filoedd o deithwyr sydd eisiau mynd i Gaerdydd.

“Mae’n annhebygol y byddwn ni’n gallu cynnig unrhyw wasanaethau o ganlyniad i’r streic.”