Borovets, Bwlgaria
Mae Cymraes 22 oed wedi marw ar ôl noson allan mewn bar tra roedd hi ar wyliau sgïo ym Mwlgaria.

Cafodd Nina Holmes, o Gorseinon ger Abertawe, ei tharo’n wael y tu allan i far BJ yn nhref Borovets nos Sul.

Mae’n debyg bod wyth Prydeiniwr arall wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn noson allan yn y dref sydd 45 milltir o’r brifddinas, Sofia.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymwybodol o’r digwyddiad ac y bydden nhw’n gweithio gyda’r crwner Abertawe Philip Rogers unwaith y bydd corff Nina Holmes yn dychwelyd i Gymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Gallwn gadarnhau marwolaeth un o ddinasyddion Prydain ym Mwlgaria ar Chwefror 2.

“Rydym yn darparu cymorth i’r teulu ar yr amser anodd hwn.”

Bydd ei chariad yn hedfan nôl gyda’i chorff heddiw ac mae ei ffrindiau wedi talu teyrngedau iddi ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.