Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno llythyr at sylw prif swyddogion Cyngor Sir Benfro yn galw arnyn nhw i ddangos parch tuag y Gymraeg wrth hysbysebu swyddi newydd.

Yn ddiweddar, fe wnaeth y Cyngor hysbysebu am weithiwr cymdeithasol i bobol ifanc yn uniaith Saesneg gan ddweud nad yw’r iaith Gymraeg yn rhan flaenllaw o ddarparu gofal cymdeithasol yn y sir.

Bellach, mae geiriad gwreiddiol yr hysbyseb wedi ei newid ond mae’r cyngor yn dal i ddweud nad oes angen poeni “os nad ydych yn ddwyieithog”, ac yn parhau i bwysleisio mai dim ond mewn rhai rhannau o ogledd Penfro y mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadai’r hysbyseb gan ddweud ei fod yn “sarhaus” tuag at y Gymraeg.

‘Dim byd wedi newid’

“Er i’r Cyngor dynnu’r geiriad gwreiddiol yn ôl does dim byd wedi newid,” meddai  Bethan Williams ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r ffaith fod y wefan yn dal i fod yn uniaith Saesneg ac nad oes unrhyw ofyn ieithyddol ar weithwyr cymdeithasol yn y Sir yn dangos agwedd y Cyngor Sir tuag at y Gymraeg”.

“Mae’r agwedd yma yn ei gwneud yn anodd i ni gymryd y Cyngor Sir o ddifrif yn unrhyw beth maen nhw’n ei wneud.

“Mae cyfle gan y Cyngor Sir i ddangos eu bod o ddifrif dros y Gymraeg – yn enwedig mewn cyfnod pan fod addysg Gymraeg yn cael ei drafod yn y sir.”

Gofynion

Yn y llythyr, sydd wedi mynd at sylw Prif Weithredwr y Cyngor, Bryn Parry-Jones; Arweinydd y Cyngor, Jamie Adams; a llefarydd y Cyngor ar y Gymraeg, Huw George, mae’r Gymdeithas yn gofyn bod:

  • Pob swydd wag o fewn y Cyngor yn cael ei hysbysebu’n ddwyieithog, a bod disgrifiadau swydd ar gael yn Gymraeg
  • Cyd-destun yn cael ei roi am y Gymraeg mewn disgrifiadau swydd ac mewn hyfforddiant i staff newydd;
  • Bod swyddi gwag o hyn ymlaen yn cael eu hysbysebu gyda gofyniad bod y Gymraeg yn hanfodol, gan ddechrau yn syth gyda swyddi sy’n dod i gysylltiad gyda’r cyhoedd.
  • Bod pob cefnogaeth ac anogaeth i staff dderbyn hyfforddiant neu wersi Cymraeg at ddefnydd gwaith a bod hynny ar gael yn ystod oriau gwaith