Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd  £3.5 miliwn o gyllid ar gael i hyrwyddo’r Gymraeg yn y sector wirfoddol dros y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn ôl y Prif Weinidog, bydd 36 o sefydliadau yn y sector wirfoddol yn elwa’n uniongyrchol o dderbyn y grant.

Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn grantiau mae  Urdd Gobaith Cymru, (£852,184); yr Eisteddfod Genedlaethol, (£543,000); a Menter Caerdydd, gan gynnwys Menter y Fro a Tafwyl, (£134,591).

Y llynedd, cafodd y drafodaeth genedlaethol ar y Gymraeg ei hysgogi gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yn sgil cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad a oedd yn dangos cwymp yn nifer  y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg.

Meddai Carwyn Jones: “Yr her o’n blaenau yw hybu’r defnydd o’r Gymraeg a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd ym mhob rhan o Gymru, ac mae popeth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn gweithio tuag at y nod hwn.”

‘Her yn parhau’n ddifrifol’

Ychwanegodd: “Mae’r her yn parhau i fod yn ddifrifol, ond mae gwaith da yn mynd yn ei flaen.  Mae adroddiad diweddar arbenigwyr Cyngor Ewrop wedi nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at yr iaith, a bydd hyn yn parhau.

“Nid ni fel Llywodraeth Cymru yw’r unig gorff sy’n gallu dylanwadu ar ddyfodol y Gymraeg.  Mae gan nifer o gyrff eraill ran i’w chwarae, yn genedlaethol neu leol, yn sefydliadau, ysgolion, cyflogwyr, teuluoedd ac unigolion.  Mae’r iaith yn rhan ohonom ac mae’n perthyn i bawb.  Mae ganddom ni i gyd ran i’w chwarae wrth sicrhau ei dyfodol.”

“Yn naturiol, rwy’n credu mai gweithredu, ac nid geiriau, fydd yn arwain yr agenda yn ei blaen ond mae’n bwysig ein bod yn symud ymlaen gyda pholisïau sydd yn seiliedig ar ymchwil gadarn a dealltwriaeth glir o’r heriau.  Fel arall y mae posib y bydd gwaith yn mynd yn ei flaen sy’n ddigyswllt ac yn seiliedig ar ddiffyg dealltwriaeth.”

Ychwanegodd Carwyn Jones y bydd yn gwneud datganiad pellach yn y gwanwyn a fydd yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol mewn mwy o fanylder.

‘Colli cyfle’

Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod Carwyn Jones wedi “colli cyfle” wrth rewi’r gyllideb ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg.

Gan ystyried chwyddiant, mae’r cyhoeddiad yn golygu toriad mewn termau real o tua £100,000 yn y gyllideb, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni’n erfyn ar i Carwyn Jones wrando ar ei ymgynghoriad ei hun, a oedd yn datgan yn glir bod gwir angen mwy o fuddsoddiad.

“Mae chwe pheth penodol rydyn ni’n mynnu y dylai’r llywodraeth ei wneud er lles y Gymraeg, un o’r pethau hynny yw sicrhau tegwch ariannol i’r Gymraeg. Yn hynny o beth, mae’r cyhoeddiad heddiw yn colli cyfle i ddangos bod y Llywodraeth yn cymryd y Gymraeg o ddifrif.

“Gydag ewyllys gwleidyddol, gallai’r Llywodraeth gyfrannu at gryfhau ein hiaith unigryw dros y blynyddoedd i ddod, ond nid yw’n ymddangos bod ganddyn nhw’r awydd i wneud dim ar hyn o bryd.

“Flwyddyn yn ôl, addawodd y Prif Weinidog y byddai asesiad o effaith iaith holl wariant y Llywodraeth ar draws ei holl adrannau: nid oes canlyniadau wedi eu cyhoeddi eto. Mae’n codi cwestiynau am allu’r gwasanaeth sifil i gyflawni gwaith o’r fath. Dylai Comisiynydd y Gymraeg gynnal yr asesiad yn lle, cyn gynted â phosib.”