Yr ymgyrchwyr ar Bont Trefechan heddiw
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan eu siom fod Cymdeithas yr Iaith wedi penderfynu mynd ati i drefnu cyfnod newydd o brotestio dros yr iaith.

Heddiw fe ddadorchuddiwyd baner gan ymgyrchwyr ar Bont Trefechan yn Aberystwyth, fel rhan o ‘anufudd-dod sifil’ yn erbyn polisïau’r Llywodraeth o ran y Gymraeg.

Mae’r ymgyrchwyr hefyd wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu dadorchuddio rhagor o faneri ar bontydd nodweddiadol eraill ar draws Cymru fel rhan o’u hachos.

Fe feirniadon nhw’r Prif Weinidog Carwyn Jones am beidio â gwneud mwy dros yr iaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Llywodraeth wedi cymryd “camau cadarnhaol”

Ond mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi’u siomi gan weithredoedd yr ymgyrchwyr.

“Rydym yn siomedig iawn bod Cymdeithas yr Iaith wedi penderfynu gweithredu yn y modd hwn, yn enwedig gan ein bod ni wedi cynnal deialog rheolaidd, ac adeiladol, gyda’r grŵp,” meddai’r llefarydd.

“Dros y flwyddyn ddiweddaf rydym wedi cymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, gan gynnwys camau pwysig fel cyhoeddi safonau arfaethedig i wella gwasanaethau Cymraeg i bobl.

“Nid ni yn unig sy’n dweud hyn – dywedodd arbenigwyr Cyngor Ewrop yn ddiweddar bod Llywodraeth Cymru yn darparu ymrwymiad cryf i’r iaith.”

Cynigiodd y Llywodraeth restr o gamau y maen nhw’n dweud iddyn nhw gymryd i hyrwyddo’r iaith dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys:

  • Cyhoeddi’r set gyntaf o safonau drafft i wella gwasanaethau Cymraeg i bobl ar draws Cymru
  • Sefydlu’r rheoliadau ar gyfer penodi aelodau i Dribiwnlys y Gymraeg, a dechrau ar y broses o benodi’r Llywydd
  • Cyhoeddi TAN 20 diwygiedig, a dweud y bydd canllawiau i helpu awdurdodau cynllunio i asesu’r effaith ar y Gymraeg hefyd yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir
  • Rhoi Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar sail statudol, sy’n golygu ei fod yn ofynnol i awdurdodau lleol, o dan amgylchiadau penodol, fesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg
  • Lansio ymgyrch wybodaeth ‘Byw yng Nghymru: Dysgu yn Gymraeg?’ i godi ymwybyddiaeth o addysg Gymraeg a dwyieithog
  • Cyhoeddi £90,000 ychwanegol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni
  • Buddsoddi £135 miliwn i gyflawni 17 prosiect mawr ar gyfer adeiladau ysgolion cyfrwng Cymraeg rhwng 2009 a 2014.