Mae papur newydd The Sun wedi cyhoeddi pwt o’r papur yn Gymraeg heddiw, ar ôl cyhoeddi stori oedd yn sôn am fwriad Llywodraeth Prydain i newid dyddiau a gwyliau ysgol.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gwyno nad ydy’r newidiadau dan sylw yn effeithio ar Gymru, gan fod addysg yn fater sydd wedi ei ddatganoli.

Cyhoeddedd Rheolwr Golygyddol The Sun, Stig Abel, ar ei gyfrif trydar: “Welsh government asked us to clarify that Tory education reform plans wouldn’t affect them. Happy to oblige, fellas.”

Mae’r ymddiheuriad yn ymddangos yn Gymraeg ar ail dudalen y tabloid heddiw:

“Ar dudalen flaen y Sun ddoe, roedd yna is-bennawd i stori addysg yn datgan “Shock Plans for Britian’s Schools”. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn inni dynnu sylw ar y ffaith bod addysg wedi ei ddatganoli iddyn nhw, a does ganddyn nhw ddim unrhyw fwriad i newid gwyliau ysgol nac adolygu hyd y diwrnod ysgol i blant.

We are happy to make this clear.”