Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod yn amau doethineb Plaid Cymru, tra mewn llywodraeth clymblaid gyda Llafur, wrth bwyso am sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio cyrff cyhoeddus.

Hyrwyddo’r iaith ddylai fod y nod, meddai, ac mae’n gweld eisiau Bwrdd yr Iaith y bu’n Gadeirydd arno rhwng 1994 a 1999.

Roedd deddf iaith newydd yn rhan o’r fargen darodd Plaid Cymru gyda Llafur er mwyn ffurfio llywodraeth rhwng 2007 a 2011.

Fe liwiodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth yn gyfrifol am yr iaith ar y pryd, Mesur y Gymraeg 2011 drwy’r Senedd, sydd wedi arwain at sefydlu swydd y Comisiynydd y Gymraeg a’r Safonau Iaith sy’n disodli’r Cynlluniau Iaith fu gan gyrff cyhoeddus. Yn rhan o’r drefn newydd mae 134 o Safonau Iaith newydd yn amlinellu pa wasanaethau sydd i fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond byddai’n well gan AC Dwyfor Meirionydd pe bae Plaid Cymru wedi “parhau i ddatblygu’r drefn oedd ganddom ni o dan Fwrdd Iaith, lled braich ac yn annibynnol o’r llywodraeth, ac yn sicr dim Comisiynydd Iaith sy’n atebol i’r llywodraeth.”

“Dydw i ddim yn arferol yn gwneud sylwadau ynghylch polisi iaith,” meddai’r Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas. “Ond doeddwn i ddim yn hapus gyda pherfformiad Plaid Cymru mewn llywodraeth ynglŷn â pholisi iaith.”

Ers symud oddi wrth y “seiliau a oedd wedi eu gosod yn y Ddeddf Iaith 1993”, a sefydlu’r gyfundrefn o Safonau a Chomisiynydd yn neddf 2011 ,“ry’n ni yn y gors” yn ôl Dafydd Elis-Thomas.

Yn ymateb i’r sylwadau, dywedodd Alun Ffred Jones nad oedd posib asesu effeithiolrwydd y drefn newydd nes bod y Safonau Iaith yn cael eu gweithredu.

Hyrwyddo – nid rheoleiddio – yw’r flaenoriaeth

Y prif flaenoriaeth o safbwynt y Gymraeg yw cynyddu’r cyfle i bobol allu defnyddio’r Gymraeg a’r gwasanaethau sydd ar gael, yn ôl yr Arglwydd Elis-Thomas.

“Dyna oedden ni’n wneud pan oedden ni yn y Bwrdd Iaith a dyna beth mae’r mentrau iaith wedi bod yn wneud. Y pwyslais oedd ganddom ni oedd hyrwyddo’r Gymraeg, nid rheoleiddio’r Gymraeg…dw i ddim isho gweld regime o reoleiddio ieithyddol sydd ddim yn mynd i gynyddu’r defnydd, a dyna ydi’r peth mawr i mi.”

Dafydd Êl yn galw am un cyngor sir i’r gogledd – yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg