Kevin Scannell
Efallai nad yw’r rheiny ohonoch chi sydd at Twitter yn gyfarwydd â’r enw Kevin Scannell, ond mae’n bosib iawn fod ganddo’ch enw chi wedi storio ar ei fas data yn rhywle.

Na nid ysbïwr mohono – Athro mewn Mathemateg a Ffiseg o Brifysgol St. Louis ym Missouri yw Kevin Scannell, sydd wedi mynd ati i fapio trydarwyr yr holl ieithoedd Celtaidd a thu hwnt.

Fe aeth ati i greu gwefan www.indigenoustweets.com fel rhan o’i ymgais i edrych ar ddefnydd yr iaith Wyddeleg – â’i deulu yn hanu o’r Ynys Werdd – ac mae bellach wedi ymestyn y gwaith i gasglu gwybodaeth am yr holl ieithoedd Celtaidd a mwy.

Cam bach o hynny wedyn oedd creu mapiau yn dangos o ble yn y byd mae’r bobl sy’n trydar yn yr ieithoedd yma’n dod – gan gynnwys y map isod yn dangos y 500 sydd wedi trydar fwyaf o weithiau yn y Gymraeg.


Ac mewn mapiau arbennig yng Nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, sydd hefyd i’w gweld ar yr App, mae Kevin Scannell wedi mynd ati i greu darlun o’r 2000 o drydarwyr mwyaf aml yn y Gymraeg, gyda phatrymau daearyddol sy’n ymestyn ar draws y byd.

“Nes i greu’r mapiau fel ychydig o hwyl,” esboniodd Kevin Scannell, sydd yn siarad Gwyddeleg bellach ac hefyd yn dysgu Gaeleg a Manx. “Ac maen nhw wedi bod yn boblogaidd tu hwnt!

“Mae’r mapiau’n dangos fod pob un o’r ieithoedd yma’n fyw ac yn iach, ac yn ffynnu hyd yn oed!”

Gallwch ddarllen mwy am Kevin Scannell a’i fapiau o’r trydarfyd Cymraeg yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Indigenous Tweets

Un peth mae ei wefan indigenoustweets.com yn dangos yw pwy yn union yw’r Cymry sy’n clochdar fwyaf yn y Gymraeg ymysg ei 500 uchaf.

Mae’r rhestr yn dangos yr unigolion a sefydliadau sy’n trydar amlaf (@golwg360 sy’n ail, gyda llaw!), yn ogystal a’r canran o’u trydar sydd yn Gymraeg.

Ond pwy yw’r unigolion sydd wedi trydar yn y Gymraeg fwyaf o weithiau ers i Twitter ddod yn rhan o’n bywydau ar-lein? A phwy o’r rheiny sydd yn cadw at iaith y nefoedd amlaf?

Yr 20 unigolyn uchaf sydd wedi (gor)lenwi’n wal Twitter ni efo’u trydariadau Cymraeg dros y blynyddoedd (ffigyrau o’r wefan 30/1/14):

  1. Dyl Mei (@dylmei) – 13254
  2. Huw Marshall (@Marshallmedia) – 13187
  3. Gareth Iwan (@GarethIwan) – 12247
  4. Hedd Gwynfor (@heddgwynfor) – 11623
  5. Rhodri ap Dyfrig (@Nwdls) – 11509
  6. Caryl Bryn (@CarylBryn) – 8661
  7. Sian Eleri Roberts (@siantirdu) – 8597
  8. Dyfan Tudur (@DyfanTudur) – 8361
  9. Malan Wilkinson (@malanwilkinson) – 7901
  10. Dewi Eirig Jones (@djones7774) – 7775
  11. Betsan Wyn Morris (@Betsan) – 7660
  12. Ianto Gruff (@iantgruff) – 7319
  13. Seiriol Hughes (@seiriol) – 7252
  14. Non Gwenhywfar (@collgwynfa) – 7160
  15. Danny Grehan (@Dannyractor) – 6824
  16. Guto Dafydd (@gutodafydd) – 6808
  17. Elliw Gwawr (@elliwgwawr) – 6755
  18. Gary Pritchard (@blogdroed) – 6720
  19. Iestyn Hughes (@Traedmawr) – 6676
  20. Sion England (@jonilloegr) – 6409

A seren aur i’r 20 sydd yn trydar y canran uchaf o’u meddyliau i’r byd yn iaith y nefoedd:

  1. Dyfan Tudur (@DyfanTudur) – 95.8%
  2. Gareth Clubb (@Naturiaethwr) – 91.9%
  3. Seimon Brooks (@SeimonBrooks) – 85.3%
  4. Geraint Tudur (@YsgCyff) – 84.4%
  5. Lyn Lewis Dafis (@Dogfael) – 82.8%
  6. Morgan Jones (@mogsjos) – 82.8%
  7. Sian Evans (@sianeaber) – 82.4%
  8. Elis Dafydd (@elisdafydd) – 82.3%
  9. Dave Rogers (@Dysgu_Cymraeg) – 82.3%
  10. Owain Schiavone (@OwainSgiv) – 82.0%
  11. Gwenfair Griffith (@gwenfair_) – 81.6%
  12. Neil Wyn Jones (@neilwyn) – 81.2%
  13. Ffred Ffransis (@ffred_ffransis) – 80.0%
  14. Llew Llyn (@Llew_Llyn) – 79.5%
  15. Jason Morgan (@hogynorachub) – 78.5%
  16. Menna Machreth (@menna) – 78.2%
  17. Sian Eleri Roberts (@siantirdu) – 78.0%
  18. Caryl Bryn (@CarylBryn) – 77.7%
  19. Dafydd Tomos (@dafyddt) – 77.3%
  20. Greg Bevan (@gregbevan) – 75.8%