Lesley Griffiths
Mae dros 60% o drigolion Caerdydd yn meddwl bod y cyngor yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel tra bod y ffigwr yn 40% yn Nhorfaen.

Dyna ddau o ganfyddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru sy’n dangos perfformiad Cynghorau Cymru o safbwynt dinasyddion ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r data hefyd wedi cyfrannu at sylfaen dystiolaeth y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ei adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Dros Gymru, roedd 57% yn meddwl fod y cyngor yn darparu gwasanaethau o safon uchel.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg o tua 14,500 o gartrefi ledled Cymru sy’n cynnwys cyfweliad 25 munud wyneb yn wyneb â phobl 16 oed a throsodd. Mae’r arolwg yn cwmpasu nifer o bynciau sy’n amrywio o iechyd a lles i wasanaethau cyhoeddus.

Am chwarae mwy o ran mewn penderfyniadau

O ran darparu gwasanaeth o ansawdd uchel, roedd Caerdydd, Caerffili, Bro Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn hanner ucha’r tabl.

Roedd Wrecsam, Casnewydd, Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful a Thorfaen yn rhan isa’r tabl.

Dangosodd canlyniadau’r arolwg hefyd bod 53% o’r rhai a gafodd ei holi eisiau cael mwy o wybodaeth am berfformiad eu cyngor.

Dywedodd 47% y bydden nhw’n hoffi chwarae mwy o ran yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol.

‘Sefyllfa ariannol heriol’

Dywedodd Lesley Griffiths, gweinidog llywodraeth leol Llywodraeth Cymru: “Mae’r cyfuniad o sefyllfa ariannol heriol a’r galw cynyddol am lawer o’r gwasanaethau allweddol y mae awdurdodau lleol yn eu darparu yn golygu bod yn rhaid i wella perfformiad barhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni.
“Bydd y data heddiw yn cefnogi awdurdodau lleol yn y gwaith hwn, gan gynnig gwybodaeth i’w helpu i weld lle maen nhw’n gwneud yn dda a lle mae angen iddyn nhw wella. Mae rhannu arfer gorau yn hanfodol ac mae’r adroddiad hwn yn dangos enghreifftiau o berfformiad da i helpu’n cynghorau i ddeall yn well sut gallant roi’r newidiadau gofynnol ar waith.”