Nick Ramsay
Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gyhoeddi eu bod nhw’n edrych mewn i greu banc datblygu newydd i Gymru funudau’n unig ar ôl cyhoeddi’r amseroedd ymateb ambiwlans gwaethaf ers mis Ebrill 2013.

Meddai’r Ceidwadwyr bod gwefan Llywodraeth Cymru yn dangos bod y penderfyniad i ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu Banc Datblygu Cymru wedi cael ei wneud ar 16 Ionawr, ond ei fod wedi cael ei gyhoeddi’r bore yma.

Hefyd y bore ma, cyhoeddwyd bod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi methu’r targedau i ymateb i achosion brys o fewn 8 munud  – a bod y ffigurau wedi gostwng 6% i 57.6% – y ffigwr isaf ers mis Ebrill 2013. Y targed yw 65%.

Mae Nick Ramsay AC, llefarydd busnes y Ceidwadwyr yng Nghymru, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o geisio cuddio’r newydd drwg gyda newydd da.

Ond, dywedodd Nick Ramsay bod y Ceidwadwyr o blaid banc datblygu newydd yn lle’r corff buddsoddi Cyllid Cymru.

Meddai: “Mae hyn yn gydnabyddiaeth nad yw Cyllid Cymru yn addas ac mae angen ei ddiwygio.

“Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru ac mae angen cefnogaeth bellach i gyflymu’r adferiad economaidd a chreu hyd yn oed mwy o gyfleoedd swyddi.”