Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi ysgrifennu at ddau bwyllgor yn San Steffan yn gofyn iddyn nhw gynnal ymchwiliad i’r ffordd mae’r Llywodraeth yn hybu a hwyluso defnydd o ieithoedd lleiafrifol.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad gan Gyngor Ewrop ar Ieithoedd Lleiafrifol wythnos diwethaf oedd yn mynegi pryder am y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng nghadarnleoedd Cymru.
Roedd yr adroddiad yn nodi pryder ynglŷn â darpariaeth y Gymraeg yn y maes addysg, y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn awgrymu fod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.
Mae Meri Huws wedi ysgrifennu at gadeiryddion y Cydbwyllgor Hawliau Dynol a’r Pwyllgor Materion Cymreig yn gofyn iddyn nhw graffu ar ganfyddiadau’r adroddiad.
Mae’r adroddiad yn gwerthuso sut mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni ar yr hyn mae wedi ymrwymo i’w wneud drwy lofnodi’r Siarter.
‘Perygl i ymrwymiadau gael eu hesgeuluso’
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae’r adroddiad yn nodi pryder nad yw’r Llywodraeth yn cymryd ei dyletswyddau a’i hymrwymiadau o dan y gyfraith ryngwladol o ddifrif o safbwynt hybu ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol y DU.
“Mae’r Siarter yn cynnwys ymrwymiadau pwysig o ran hybu a hwyluso defnydd o ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys y Gymraeg. Yn absenoldeb craffu gan wleidyddion, mae perygl i ymrwymiadau’r Llywodraeth ac argymhellion y Pwyllgor gael eu hesgeuluso.
“Er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gymryd o ddifrif yn y dyfodol, rwyf wedi galw ar y pwyllgorau i graffu ar y gwaith.”