Logo Gwir Gymru
Mae llefarydd ar ran mudiad Gwir Gymru wedi cyfaddef ei fod yn gwybod eu bod nhw’n mynd i golli’r refferendwm o’r cychwyn cyntaf.

Dywedodd Nigel Bull o’r mudiad ei fod o “wedi dechrau’r ymgyrch yn meddwl ein bod ni’n mynd i golli”.

“Doedden i ddim eisiau bod yn rhy siomedig,” meddai.

“Roedden ni wedi gwneud yn dda yn y polau piniwn oedden ni wedi eu cynnal. Ond roedd y rhai cafodd eu cyhoeddi yn wahanol iawn.”

Datgelodd hefyd mai dim ond tua £5,000 oedd Gwir Gymru wedi ei wario ar eu hymgyrch nhw, a oedd wedi ei seilio yn bennaf ar falŵn mochyn llawn aer.

“Roedd yr ymgyrch ‘Ie’ wedi cael llawer rhagor o arian i’w wario na ni,” meddai. “Democratiaeth yw’r system gorau y mae arian yn gallu ei brynu.

“I roi pethau mewn persbectif, mae’r ymgyrch ‘Ia’ wedi gwario degau o filoedd mae’n siŵr. Rydyn ni wedi brwydro ymgyrch tactegol.

“Beth bynnag y canlyniad rydw i’n teimlo ein bod ni wedi gwneud yn dda iawn.”

Y Gymraeg ‘yn opsiwn’

Â’r ymgyrch ar ben roedd Nigel Bull yn fodlon siarad ynglŷn â rhai o’r pynciau oedd wedi ei gorddi dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys yr iaith Gymraeg.

Dywedodd fod ei ymgyrch wedi taro tant â phobol ifanc oedd yn pryderu fod yr iaith Gymraeg yn cael ei orfodi arnyn nhw.

“Rydan ni wedi cael ymateb gwych gan rai pobl ifanc,” meddai.

“Fe aethon ni i siarad â phobl ifanc o goleg chweched dosbarth CrossKeys. Roedden nhw’n gofyn pam bod rhaid iddyn nhw ddysgu’r iaith Gymraeg pan mae ieithoedd gan gynnwys Mandarin, Cantonese a Sbaeneg yn llawer pwysicach.

“Fe ddylai bob plentyn gael yr opsiwn o ddysgu Cymraeg neu beidio.

“Rydw i’n cael yr argraff fod rhai pobol yn y Cynulliad yn byw 500 mlynedd yn ôl… Mae’n rhaid i Gymru symud ymlaen.

“Mae’r iaith yn help os ydych chi eisiau swydd, ond all pawb ddim gweithio yn y Cynulliad a’r BBC. Beth os ydi rhywun eisiau gadael Cymru?

“Dydw i ddim yn wrth Gymraeg, ond roedd llawer iawn o ddrwg deimlad ar y strydoedd am yr iaith Gymraeg yn cael ei orfodi ar bobl.

“Mae gyda ni Gymdeithas Iaith Gymraeg sy’n ymosodol iawn. Maen nhw’n ymosod ar eiddo o hyd.”

S4C

Roedd hefyd o’r farn fod S4C yn methu am nad ydyn nhw’n gweld cyfle i ddarlledu rhaglenni’n Saesneg yn ogystal â rhai Cymraeg.

“Roedd y Bencampwriaeth Rali mewn Cymraeg yn unig. Dyw’r sianel ddim yn darlledu dim yn Saesneg,” meddai.

“Mae pobol yn methu’r cyfle i fwynhau rhan fawr o’n diwylliant ni am mai dim ond yn y Gymraeg mae’r rhaglenni yn cael eu dangos.”