Mae galw ar Gyngor Sir Benfro i ohirio cynlluniau i gau pwll nofio Arberth ar 1 Ebrill, wrth i Gyfeillion Pwll Arberth gau pen y mwdwl ar gynllun busnes i drosglwyddo’r awenau i fenter gymdeithasol.

Mewn cyfarfod rhwng Cyngor Sir Benfro a Chyfeillion Pwll Arberth y bore ma, penderfynwyd y bydd pwyllgor yn cael ei sefydlu i edrych ar faterion fel staffio, ariannu a materion cyfreithiol.

Ym mis Rhagfyr 2013, fe wnaeth cabinet Cyngor Sir Benfro argymell cau pwll Arberth ar Ebrill 1  – a fyddai’n arbed £126,000 y flwyddyn i’r cyngor.

Ond bydd gofyn i’r cyngor ohirio’r cynlluniau yma am dri mis, er mwyn cwblhau cynllun busnes i’r pwll fedru aros yn agored.

Mi fydd cyfarfod cyhoeddus arall yn cael ei gynnal yn Ysgol Gynradd Gymunedol Arberth am 6:30 yr hwyr, 3 Chwefror.

Cafodd y pwll 20 medr ei adeiladu yn 1973 a dyma’r unig bwll sydd mewn adeilad ar ben ei hun yn y sir.