Mi fydd aelodau’r asiantaeth gerddoriaeth Gymraeg, Eos, yn cwrdd yng Nghaerdydd heno i drafod y camau nesaf, ar ôl i dribiwnlys benderfynu y dylai’r BBC dalu swm llawer is nag yr oedden nhw wedi ei obeithio am yr hawl i ddarlledu cerddoriaeth Gymraeg.

Penderfynodd y tribiwnlys y dylai’r  BBC dalu £100,000 y flwyddyn am hawliau i ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos ar Radio Cymru.

Roedd Eos wedi gobeithio am gyfanswm o daliadau o £1.5m yn flynyddol gan y BBC.

Cynhaliwyd y Tribiwnlys Hawlfraint annibynnol yng Nghaernarfon ym mis Medi ar ôl i Eos a’r BBC fethu â chytuno ar delerau i chwarae’r gerddoriaeth yn gynharach eleni.

‘Methu cydnabod gwerth’

Ar ôl y cyhoeddiad dywedodd Dafydd Roberts o’r asiantaeth Eos, fod y cyhoeddiad yn rhoi cerddorion a chyhoeddwyr Cymreig yn ogystal â dyfodol Eos, mewn sefyllfa ddifrifol iawn.

“Ar ôl treulio bron iawn i 6 blynedd yn ymgyrchu am daliadau tecach mae’n newyddion trist fod y tribiwnlys wedi methu â chydnabod gwerth yr hawliau hyn i’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg,” meddai Dafydd Roberts.

Mae Eos felly yn cyfarfod i drafod penderfyniad y tribiwnlys yn ogystal â phleidleisio ar nifer o gynigion am ddyfodol yr asiantaeth.

Dywedodd Dafydd Roberts heddiw: “Heno, yn syml, mi fydd y pwyllgor yn cyflwyno’r dyfarniad ac yna mi fydd ‘na gyfle i’r aelodau ymateb a rhoi eu barn.

“Fe aeth pethau’n dda iawn nos Wener, ac mi rydan ni’n gobeithio am ymateb tebyg yng Nghaerdydd heddiw.”

Trafod telerau

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales:

“Yn dilyn dyfarniad y tribiwnlys rydym ni nawr mewn sefyllfa i drafod telerau manwl y cynnig gydag Eos cyn dod i gytundeb terfynol.

“Mae ein ffocws yn parhau ar sicrhau llwyddiant Radio Cymru i’r dyfodol a darparu’r gwasanaeth gorau posib i’w chynulleidfa.”

Fe gyhoeddodd y  BBC eu bod nhw wedi  gwario £363,526.22 ar yr achos tribiwnlys.

Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Chapter, Caerdydd am 6 o’r gloch heno.