John Walter Jones
Cyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith a chyn Gadierydd S4C yw un o’r cyflwynwyr Radio Cymru o fis Mawrth ymlaen.

Fe fydd John Walter Jones yn cyflwyno rhaglen hanner awr bob dydd Mercher, mewn slot trafod newydd amser cinio.

Fe gafodd enwau’r cyflwynwyr eu cyhoeddi mewn cyfarfod staff Radio Cymru brynhawn Mercher, gan Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni yr orsaf.

Amserlen newydd

Mae disgwyl bellach y bydd yr amserlen newydd yn cael ei chyflwyno yn ail wythnos lawn mis Mawrth.

Y rhaglenni amser cinio fydd un o’r prif newidiadau, yn ogystal â chyflwyno’r DJ radio lleol, Tommo, yn y prynhawn a rhaglen newydd i’r cyflwynydd Dylan Jones wedi’r newyddion bore.

Y cyflwynwyr

Cyflwynwyr y slotiau trafod amser cinio ydi:

  • Dydd Llun – Gari Wyn, y cyn-athro sydd bellach yn werthwr ceir ac entrepreneur – y disgwyl yw y bydd yn mynd ar ôl pynciau llosg ym myd busnes.
  • Dydd Mawrth – Caryl Parry Jones, sy’n symud o’r slot brecwast gyda Dafydd Du i gyflwyno rhaglen gyda ‘theimlad canol wythnos’.
  • Dydd Mercher – John Walter Jones – a fu hefyd yn un o brif weision sifil y Swyddfa Gymreig.
  • Dydd Iau – ‘Stiwdio’, y rhaglen sy’n trafod y celfyddydau, gyda Nia Roberts yn cyflwyno;
  • Dydd Gwener – Vaughan Roderick a’i raglen trafod gwleidyddiaeth o Fae Caerdydd.

Fe fydd amserlen newydd Radio Cymru yn dechrau ddydd Llun, Mawrth 10.