Llwy garu
Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi comisiynu crefftwr lleol i atgynhyrchu casgliad o lwyau caru o’r ddeunawfed ganrif.

Mae 12 llwy wedi eu creu ac maen nhw’n gopi o gasgliad yr Amgueddfa, sy’n dyddio’n ôl mor bell â  1667.

Mae’r Amgueddfa wedi comisiynu Siôn Llewelyn o Ben-y-bont ar Ogwr, i ail-greu rhai o’r enghreifftiau gorau er mwyn i ymwelwyr allu prynu “darn bach o hanes” ar gyfer diwrnod Santes Dwynwen.

Dywedodd Curadur Sain Ffagan, Dr Emma Lile: “Does ’na ddim gwybodaeth am wneuthurwyr nac o ble daeth y llwyau yn y casgliad gwreiddiol ond mae hynny’n rhan o ddirgelwch y llwyau.

“Mae’n gyfle i brynu rhywbeth hollol unigryw.”

Cefndir

Dechreuodd Siôn Llewelyn o Ben-y-bont ar Ogwr, gerfio llwyau caru pan oedd yn 12 oed ar ôl gweld llwy garu a dderbyniodd ei chwaer gan ei chariad.

Gan ddefnyddio pren o hen focs orennau a chyllell boced, fe wnaeth ei lwy gyntaf a’i chyflwyno hi i’w fam.

Mae’n debygol fod llwyau caru  wedi datblygu o’r llwy gawl ac maen nhw’n cael eu rhoi yn anrhegion fel arwydd o serch y cerfiwr.

“Rhaid bod yn fedrus i wneud llwyau caru – nid yn unig oherwydd y patrymau a’r manylion cymhleth, ond gan fod rhaid eu gwneud o un darn o bren,” medd llefarydd ar ran Sain Ffagan.

Fe fydd y casgliad ar werth yn eu siop ar gyfer Dyddiau Santes Dwynwen a Ffolant.