Nikitta Grender
Mae cymdeithas dai wedi gwneud cais i ddymchwel y fflat lle cafodd merch feichiog 19 oed ei llofruddio.

Cafodd Nikitta Grender ei lladd bron i dair blynedd yn ôl, ac mae’r adeilad yng Nghasnewydd wedi bod yn wag ers hynny.

Mae rhieni a chariad y ferch hefyd wedi galw am ddymchwel y fflat ym Mharc Broadmead, sy’n berchen i gymdeithas dai Cartrefi Dinas Casnewydd.

Cefndir

Cafodd  Carl Whant, 28, ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio’r ferch feichiog ym mis Chwefror 2012.

Roedd Nikitta Grender o fewn pythefnos o roi genedigaeth i’w merch fach pan wnaeth Carl Whant ei threisio, cyn ei thrywanu i farwolaeth a rhoi’r fflat ar dân ar 5 Chwefror.

Roedd Carl Whant yn werthwr ffenestri, oedd yn gaeth i gyffuriau, ac yn gefnder a ffrind gorau i gariad Nikitta Grender, Ryan Mayes.

Bydd yn gorfod treulio o leiaf 35 mlynedd dan glo.

Dywedodd y cynghorydd lleol Allan Morris wrth BBC Cymru ei fod yn cefnogi’r cais: “Mae wedi bod yn gyfnod anodd ond mae’r penderfyniad yn adlewyrchu dymuniad teulu Nikitta a dwi’n gobeithio nawr y gall yr ardal symud ymlaen.”