Mae dau ddyn wedi’u harestio gan Heddlu Gwent ar amheuaeth o ymgais i lofruddio swyddog ar ôl gyrru’n fwriadol i mewn i gar heddlu.

Mae’r ddau ddyn, 38 a 40 oed, o ardal Pont-y-pŵl hefyd yn wynebu cyhuddiadau o dorri  i mewn a gyrru’n beryglus.

Fe ddigwyddodd y lladrad ddoe mewn tŷ yn Shirenewton yn Sir Fynwy tua 10.20 y bore. Fe wnaeth perchnogion y tŷ roi gwybod i’r heddlu  a rhoi disgrifiad o ddau ddyn yn dianc o’r safle mewn Landrover Discovery.

Yna, tua, 10.40am fe gafodd y Landrover ei weld yng nghanol tref Usk. Fe gafodd y car ei stopio Yng Nghoed -y-Paen. Dyna pryd y cafodd y cerbyd ei yrru’n fwriadol i mewn i’r car Heddlu.

Roedd un swyddog heddlu yn y car ar y pryd. Fe’i cludwyd i’r ysbyty ond cafodd ei ryddhau heb driniaeth.

Fe ddylai unrhyw un a gwybodaeth am y cerbyd neu’r gwrthdrawiad gysylltu â’r Heddlu  ar 101 neu Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.