Carwyn Jones
Mae mudiad iaith wedi dweud y gallai gweithredu argymhellion Comisiwn Williams ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fod yn gyfle i wella darpariaeth yn y Gymraeg.

Dyna farn mudiad Dyfodol i’r Iaith a gyflwynodd dystiolaeth i’r Comisiwn yn ystod y cyfnod ymgynghorol y llynedd.

Bydd adroddiad y Comisiwn Williams yn cael ei gyhoeddi heddiw ac mae disgwyl y bydd yn argymell lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i 12 neu lai. Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones eisoes wedi dweud bod gormod o gynghorau a bod y drefn bresennol yn anghynaladwy.

Mae’r BBC ar ddeall y bydd y comisiwn yn awgrymu ad-drefnu drwy uno’r cynghorau gan ddefnyddio’r ffiniau presennol yn hytrach na llunio rhai newydd.

Y cefndir

Sefydlwyd y Comisiwn ym mis Ebrill 2013 i fwrw golwg “trylwyr a gwrthrychol” ar y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu llywodraethu a’u darparu yng Nghymru, a sut y gellir eu gwella.

Y tro diwethaf i awdurdodau lleol gael eu had-drefnu oedd yn 1996.

Dyfodol i’r Iaith

Yn ei dystiolaeth i’r Comisiwn, dywedodd Dyfodol i’r Iaith bod angen rhoi ystyriaeth flaenllaw i natur ieithyddol Cymru mewn unrhyw drafodaeth am ad-drefnu llywodraeth leol.

Yn ôl y sôn fe fydd Comisiwn Williams yn derbyn yr egwyddor hon o barchu ffiniau ieithyddol yn ei argymhellion ar uno cynghorau sir.

Dywedodd cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd: “Mae cyfle gwych yma i gynghorau Cymru ddod ynghyd a chynnig gwell darpariaeth yn y Gymraeg i’w dinasyddion. Drwy rannu adnoddau a staff ar draws y ffiniau presennol mae yna botensial i ddarparu gwell gwasanaethau, er enghraifft ym maes gofal cymdeithasol ac addysg anghenion arbennig.”

“Rydym hefyd yn mawr obeithio y bydd uno cynghorau sydd â natur ieithyddol debyg yn arwain at fwy o weinyddu mewnol yn y Gymraeg. Mae angen i’r Gymraeg fod yn brif gyfrwng gweinyddu yn holl awdurdodau lleol gorllewin Cymru, gan ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd.”

Dim angen brysio

Mae llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar lywodraeth leol, Peter Black, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd ei amser dros unrhyw ad-drefnu er mwyn sicrhau nad oes camgymeriadau.

Meddai Peter Black:  “Yn y pen draw, dylai hyn sicrhau ein bod yn cael y gwasanaeth cyhoeddus mwyaf cost effeithiol, effeithlon ac atebol.

“Rwyf am weld cynghorau yn cael eu grymuso a gwasanaethau lleol yn cael ei wneud yn atebol i bobl leol. Gall hynny gynnwys ad-drefnu cynghorau lleol, ond mae hefyd yn golygu edrych ar roi mwy o bwerau a chyfrifoldebau iddynt. Ni ddylai datganoli orffen ym Mae Caerdydd.

“Mae’n rhaid i’r ad-drefnu llywodraeth leol nesaf, os bydd yn digwydd, fod ar gyfer yr hir dymor. Ni allwn fforddio dechrau eto ymhen 15 neu 20 mlynedd.”