Llyr Gruffydd
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi ffigyrau sy’n dangos fod gwariant aelwydydd ar nwy a thrydan wedi codi mwy na theirgwaith yn gynt nac incwm.
Rhybuddiodd y Blaid fod angen gweithredu difrifol i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol uchel wrth i ffigyrau ddangos fod gwariant aelwydydd ar nwy a thrydan wedi cynyddu o 34% ers 2008, tra bod incwm cyfartalog aelwydydd wedi codi o 9% yn unig.
Yn ôl y ffigyrau:
Cynyddodd y bil nwy domestig cyfartalog blynyddol yn ne Cymru o £584 i £859 – codiad o 47%
Cynyddodd y bil nwy domestig cyfartalog blynyddol yng Nglannau Mersi a Gogledd Cymru o £618 i £857 – codiad o 39%
Cynyddodd y bil trydan domestig cyfartalog blynyddol yn ne Cymru o £444 i £534 – codiad o 20%
Cynyddodd y bil trydan domestig cyfartalog blynyddol yng Nglannau Mersi a Gogledd Cymru o £435 i £536 – codiad o 23%
Cynyddodd y bil trydan a nwy cyfun domestig cyfartalog blynyddol yn ne Cymru o £1,028 i £1,393 – codiad o 36%
Cynyddodd y bil trydan a nwy cyfun domestig cyfartalog blynyddol yng Nglannau Mersi a Gogledd Cymru o £1,053 i £1,393 – codiad o 34%
Ar y llaw arall, cynyddodd Incwm Gwaredadwy Aelwydydd Gros (IGAG) y pen o £12,930 i £14,129 – codiad o 9% yn unig
Ni chododd yr isafswm cyflog cenedlaethol o ddim mwy na 10%.
Cwmni nid-am-elw
Dywedodd Gweinidog Ynni cysgodol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd AC, fod llywodraeth San Steffan “wedi methu trin mater y codiad ym mhrisiau ynni”.
“Mae’r ffigyrau hyn yn datgelu effaith arswydus costau ynni cynyddol ar aelwydydd ledled Cymru.
“Mae prisiau ynni yn chwyrlio tuag i fyny, a does fawr ddim help i gwsmeriaid sydd yn cael trafferth i dalu’r prisiau uchel.
“Tra bod llywodraeth San Steffan yn cynghori defnyddwyr i wneud dim ond newid darparwyr, unig ateb yr wrthblaid Lafur yw cynnig anghynaladwy i rewi prisiau.
“Heb unrhyw wir weithredu ar brisiau ynni, fe welwn fwy a mwy o gartrefi yn cael eu gwthio i dlodi tanwydd wrth i gostau ynni frathu’n ddyfnach i gyllidebau teuluoedd.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud newidiadau sylfaenol i’r farchnad ynni trwy sefydlu cwmni ynni newydd, nid-am-ddifidend, mewn dwylo cyhoeddus, i herio monopoli’r 6 Cwmni Ynni Mawr fel bod yr haen o gyfranddalwyr yn pocedu’r elw yn cael ei dynnu o’r system.
“Byddai unrhyw elw a wnaed yn cael ei ddefnyddio fel cymhorthdal i filiau ynni i ddefnyddwyr Cymreig a’i ail-fuddsoddi yn seilwaith ynni Cymru fel bod gan Gymru ateb yn y tymor hir i gostau ynni is.”