Elfyn Llwyd
Mae aelod seneddol wedi galw am greu lle i bobol ifanc o Gymru yn y carchar newydd anferth sy’n cael ei godi yng ngogledd Cymru.

Yn ôl Elfyn Llwyd, AS Plaid Cymru tros Ddwyfor Meirionnydd, fe fyddai hynny’n gymorth mawr i helpu pobol ifanc i ddod yn ôl yn rhan o gymdeithas wedyn.

Os na fydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn sicrhau lle i bobol ifanc leol, fe fyddan nhw’n colli cyfle, meddai wrth Radio Wales.

Llythyr

Fe ddywedodd y bydd yn sgrifennu llythyr at y Gweinidog Cyfiawnder, Chris Grayling, yn gofyn iddo ystyried creu uned fechan yn benodol ar gyfer pobol ifanc.

Fe allai’r uned gynnig cyrsiau i garcharorion ifanc, meddai, gan weithio ar y cyd gyda’r brifysgol leol, Prifysgol Glyndwr.

Yn y gorffennol, mae Elfyn Llwyd wedi bod yn feirniadol o faint y carchar newydd yn ardal Wrecsam, sy’n debyg o fod â lle i tua 2,000 o garcharorion.

Meddai Elfyn Llwyd

Dyma ddywedodd Elfyn Llwyd ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru:

“Tydi’r system bresennol ddim yn gweithio, ac un o’r rhesymau am hynny yw nad oes digon o waith yn cael ei wneud hefo bobol ifanc pam maen nhw o dan glo.

“Mae angen eu cael nhw nol i’r gymdeithas ac i feddwl yn fwy positif am y dyfodol.

“Mae’r  adnoddau ar gael – mae Prifysgol Glyndŵr reit ar stepen drws felly dwi’n gweld fod ’na gyfle euraidd yma i wneud rhywbeth go iawn ac i sicrhau na fyddwn ni’n clywed hanesion am hogiau ifanc i mewn ac allan o garchar.

“Dwi wedi gweld cyrsiau gwaith coed, trwsio ceir, a phlymio mewn carchardai eraill i oedolion – mae’n  rhaid rhoi cyfle iddyn nhw feddwl ei bod hi’n bosib cael gyrfa.”