Cyngor Gwynedd - uno gyda Môn
Mae Golwg360 yn deall mai tri chyngor sir fydd awgrym comisiwn Williams ar gyfer gogledd Cymru.

Mae hynny’n cyd-fynd â rhagor o awgrymiadau sy’n dod cyn cyhoeddi adroddiad y Comisiwn ar Ddarparuy Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraethiant  ddydd Llun.

Mae’r BBC heddiw’n dweud y bydd y Comisiwn yn awgrymu cyfuno cynghorau presennol, yn hytrach na chreu rhai newydd a hynny heb groesi ffiniau eraill, fel rhai byrddau iechyd.

Mae nifer o ffynonellau newyddion eisoes wedi awgrymu mai 11 cyngor fydd yr argymhelliad.

Y Gogledd

Yn y Gogledd, mae Golwg360 yn deall y bydd y Comisiwn yn awgrymu cyfuno Ynys Môn a Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych a Wrecsam a Sir y Fflint.

Fe fyddai hynny’n golygu gwario llai o arian a llai o derfysg nag y byddai tynnu llinellau newydd ar y map ac mae’n parhau gyda rhai datblygiadau sydd eisoes ar droed yn annog cynghorau i gydweithio.

Yn ôl y BBC, fe fydd y Comisiwn dan arweiniad Paul Williams hefyd yn sicrhau nad yw’r cynghorau newydd yn croesi ffiniau pwysig eraill, fel rhai’r Byrddau Iechyd neu awdurdodau heddlu.

Gwrthwynebiad

Mae rhai arweinwyr cynghorau eisoes wedi dechrau gwrthwynebu’r newidiadau posib, gydag Elen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion, er enghraifft, yn mynnu bod angen cadw’r ardal yr un peth.

Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru hefyd wedi rhybuddio y gallai diwygio’r siroedd arwain at golli hyd at 15,000 o swyddi.

Ond fe fydd y Comisiwn yn gwneud argymhellion am lawer mwy na ffiniau, gan awgrymu ffyrdd newydd i’r gwasanaethau cyhoeddus weithio’n well.