Edwina Hart
Roedd nifer yr ymweliadau dros nos â Chymru gan ymwelwyr o Brydain wedi cynyddu 8% yn ystod naw mis cyntaf 2013, yn ôl ffigurau o Arolwg Twristiaeth Prydain.

Mae’r canlyniadau, a gafodd eu cyhoeddi heddiw hefyd yn dangos bod bron i 12% yn fwy wedi’i wario o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2012. Gwariodd ymwelwyr £1,415 miliwn yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Medi 2013.

Mae’n dangos bod y cynnydd yn y ffigurau ar gyfer Cymru, o’i gymharu â 2012, lawer yn uwch na’r cynnydd ar gyfer gweddill Prydain.

Mae’r ffigurau yn berthnasol i naw mis cyntaf 2013. Cafwyd 8.04 miliwn o ymweliadau â Chymru gan drigolion o Brydain, sy’n gynnydd o 7.8% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2012 (7.46 miliwn) a 5.4% yn uwch na’r ffigur yn 2011 (7.63 miliwn).

‘Calonogol’

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: “Mae’r ffigurau hyn yn galonogol iawn i ddiwydiant twristiaeth Cymru. Rydym wedi derbyn adborth gan y diwydiant yn nodi bod 2013 yn flwyddyn dda, ac yn arbennig yn ystod misoedd prysur yr haf.

“Mae canlyniadau Cymru ar gyfer mis Ionawr hyd fis Medi 2013 yn ddangosyddion da o berfformiad blynyddol gan eu bod yn cynnwys prysurdeb yr haf. Mae’r canlyniadau’n bositif iawn o safbwynt niferoedd absoliwt ac o safbwynt y ffaith bod perfformiad Cymru gryn dipyn yn well na pherfformiad Prydain Fawr gyfan.

“Wrth gwrs roedd tywydd braf yr haf yn ffactor ond mae diwydiant twristiaeth Cymru’n sicr yn datblygu’n ddiwydiant cadarn a chydnerth ac mae’n rhan allweddol o’n heconomi.   Nod strategaeth twristiaeth Cymru yw cynyddu gwerth twristiaeth i economi Cymru 10% erbyn 2020.

“Mae’r gwaith o farchnata Cymru’n parhau a bydd ymgyrch hysbysebu newydd ar gyfer y DU ac Iwerddon, yn cynnwys hysbyseb deledu newydd, yn cael ei lansio ym mis Mawrth er mwyn ceisio denu ymwelwyr i Gymru yn ystod haf 2014.”