Carwyn Jones
Swyddog croesfan ysgol, sylfaenydd Only Men Aloud, mam ifanc a seren rygbi rhyngwladol – dyna rai o’r bobol sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dewi Sant.

Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r gwobrau gael eu cynnal ac fe gyhoeddwyd y rhestr fer heddiw gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod llwyddiannau pobol o bob cefndir a galwedigaeth sy’n cael eu henwebu gan aelodau o’r cyhoedd.

Ymysg y rhai sydd ar y rhestr fer mae Karin Williams, swyddog croesfan ysgol o’r Rhws. Cafodd ei henwebu ar gyfer y categori dewrder ar ôl iddi sefyll o flaen plant pan gollodd gyrrwr reolaeth ar ei gar o flaen yr ysgol. Torrodd ei hysgwydd a’i dwy goes wrth wneud hynny, ac o ganlyniad bu’n rhaid iddi dreulio naw wythnos yn yr ysbyty.

Hefyd ar y rhestr fer mae Antur Waunfawr -menter gymdeithasol yng Nghaernarfon; Serai Hann, mam ifanc o Abertawe a weithiodd i sefydlu ymgyrch Credyd Teg Bae Abertawe; y chwaraewr rygbi Leigh Halfpenny a’r gantores Cerys Matthews.

‘Gwneud gwahaniaeth’

Dywedodd y Prif Weinidog: “Y bwriad oedd cydnabod llwyddiannau eithriadol pobol Cymru, pobol rwy’n dod ar eu traws yn rheolaidd wrth deithio ar hyd a lled y wlad, pobol sy’n cymryd cam ychwanegol i wneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd yng Nghymru.

“Rwy’n falch nad fi sy’n gyfrifol am ddewis enillydd pob categori, er bod pob un yn haeddiannol ac yn ymfalchïo yn eu llwyddiant, gobeithio.”

Gellir gweld y rhestr llawn o’r rhai sydd wedi’u henwebu ar wefan: www.stdavidawards.org.uk