Mae Aelod Cynulliad wedi galw am ymchwiliad, wedi i glwb golff gau ar ôl derbyn £160,000 o arian cyhoeddus.

Mae Clwb Golf Garnant yn Nyffryn Aman wedi bod yn derbyn cymorthdaliadau gan Gyngor Sir Caerfyrddin am ddwy flynedd. Roedd safle’r clwb hefyd yn cael ei roi am ddim gan y cyngor.

Dywedodd y cyngor nad oedden nhw’n ymwybodol bod Clays Golff, sy’n rhedeg y clwb, mewn trafferthion ariannol.

Mae Rhodri Glyn Thomas, AC Plaid Cymru wedi dweud fod rhaid gofyn nifer o gwestiynau am yr achos busnes ar gyfer y clwb a’r penderfyniad i ddefnyddio arian y trethdalwyr.

‘Rhedeg allan o arian’

Cafodd y clwb ei adeiladu ar hen safle pwll glo, am tua £1 miliwn.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Steve Williams:

“Dw i ddim am geisio esbonio fy hun, dim ond dweud ein bod ni wedi trio ein gorau i gadw’r clwb yn agored, ond yn anffodus fe wnaethon ni redeg allan o arian.”


Rhodri Glyn Thomas
‘Digon yw digon’

Yn ôl Rhodri Glyn Thomas mae gwariant y cyngor yn “amheus” ar adeg pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu bygwth.

“Nid yw arian trethdalwyr yn cael ei wario’n gyfrifol gan y cyngor Llafur- Annibynnol sydd mewn grym yn y sir.

“Hoffwn weld ymchwiliad llawn i mewn i’r trefniant, ac asesiad cychwynnol o’r cytundeb a oedd yn cyfiawnhau symiau mor fawr o arian y trethdalwyr yn cael eu rhoi i ffwrdd.

“Byddwn hefyd yn hoffi gwybod a yw cytundeb wedi ei roi ar waith i ddiogelu arian y trethdalwr yn y sefyllfa hon.

“Mae’r amser wedi dod i drigolion Sir Gaerfyrddin i ddweud ‘digon yw digon’ i’r camreoli parhaus o’u  harian.”

‘Staff wedi cael eu cadw yn y tywyllwch’

Ychwanegodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards : “Yn seiliedig ar y wybodaeth yr wyf wedi derbyn mae’n ymddangos bod y staff wedi cael eu cadw yn y tywyllwch gan y cwmni sy’n rhedeg y clwb. Nid yw hyn yn ffordd i drin y gweithlu na’r  aelodau sydd wedi talu i ddefnyddio’r clwb.

“Rwy’n cynnig fy nghefnogaeth lawn i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y cau.”

‘Camreolaeth’

Ychwanegodd  David Jenkins, Cadeirydd  Pwyllgor Archwilio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chynghorydd Sir Plaid Cymru  dros ward gyfagos Glanaman:

“Pan gafodd y cytundeb hwn ei gyhoeddi yn 2011, yr wyf yn cofio dweud mai’r unig reswm bod  y cwrs golff wedi methu oedd camreolaeth y Cyngor Llafur- Annibynnol.

“Unwaith eto, mae trethdalwyr Sir Gaerfyrddin yn talu am syniadau or-uchelgeisiol  arweinyddiaeth  y cyngor.

“Yr wyf yn cytuno y dylai ymchwiliad llawn gael ei gynnal. Byddaf yn cysylltu gydag aelodau fy mhwyllgor i weld a ydynt yn awyddus i ymchwilio i’r mater.”