Seán Ó Cuirreáin, Y Comisiynydd Iaith
Bydd ymgyrch genedlaethol newydd i fynd i’r afael a methiant Llywodraeth Iwerddon i roi cymorth parhaus i’r iaith Wyddeleg yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf.

Mynychodd dros 200 o bobl gyfarfod cyhoeddus yn Nulyn ddydd Sadwrn mewn ymateb i ymddiswyddiad An Coimisinéir Teanga (Y Comisiynydd Iaith) Seán Ó Cuirreáin fis diwethaf.

Clywodd y cyfarfod bod Seán Ó Cuirreáin wedi ymddiswyddo mewn protest oherwydd methiant y Llywodraeth i weithredu deddfwriaeth a gynlluniwyd i wella gwasanaethau i’r cyhoedd drwy’r iaith Wyddeleg.

Trefnwyd y cyfarfod gan Conradh na Gaeilge, sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo’r iaith Wyddeleg, a chafodd methiant y Llywodraeth i weithredu argymhellion a wnaed gan y Comisiynydd Iaith ei feirniadu’n hallt yn y cyfarfod.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Conradh na Gaeilge bod ymddiswyddiad y Comisiynydd Iaith wedi “synnu’r” gymdeithas Wyddeleg ac nad oedd dewis ganddyn nhw ond rhoi pwysau ar y Llywodraeth.

Meddai Julian de Spáinn wrth Golwg 360: “Mae pobl wedi gwerthfawrogi gwaith y comisiynydd ond mae diffyg gweithredu’r Llywodraeth wedi ein synnu ac wedi dod a’r gymuned Wyddeleg at ei gilydd.

“Rydyn ni’n gwybod bod 95% o bobl yn y de ac hyd yn oed 35% o bobl yng Ngogledd Iwerddon wedi dweud eu bod nhw’n gefnogol i’r iaith. Rydyn ni’n gwybod bod tua 2 filiwn o bobl yn gallu o leiaf ychydig o Wyddeleg ond mae’r Llywodraeth yn anwybyddu hyn.

“Byddwn ni’n rhoi pwysau ar y Llywodraeth i roi cefnogaeth a gweithredu dros yr iaith.”

Bydd yr ymgyrch newydd yn dechrau bron ar unwaith gyda rali fawr yn cael ei threfnu yn Nulyn ar 15 Chwefror.