Mae Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo cau llyfrgelloedd Brymbo a Gresffordd a chwtogi oriau mewn llyfrgelloedd eraill yn yr ardal.
Roedd Cyngor Wrecsam yn bwriadu cau tair llyfrgell fel rhan o gynlluniau i arbed £92,000 mewn toriadau.
Bydd oriau llyfrgelloedd eraill yr ardal yn cael eu cwtogi o 19%.
Cafodd deiseb ei arwyddo gan drigolion lleol, yn galw ar arweinydd y cyngor Neil Rogers i arbed arian mewn ffyrdd eraill.
Ac mae’n ymddangos fod y grwpiau cymunedol yn bwriadu cynnal y llyfrgelloedd eu hunain yn dilyn penderfyniad y cyngor.
Daw’r toriadau wrth i Gyngor Wrecsam symud gam yn nes at groesawu carchar enfawr a fyddai’n dal 2,000 o garcharorion ac yn costio £250 miliwn i’w adeiladu.