Mi fydd 15,000 o swyddi o dan fygythiad os fydd Llywodraeth Cymru’n bwrw mlaen a chynlluniau i ad-drefnu cynghorau sir.

Dyma mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi ei awgrymu mewn cyflwyniad i adolygiad gan Gomisiwn Williams – sy’n edrych ar wella dulliau llywodraeth yng Nghymru.

Ac fe all y newidiadau gostio tua £250 miliwn yn ôl y cyfrifwyr Deloitte.

Mae disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi adroddiad ddydd Llun nesaf am yr unig ad-drefnu yng Nghymru ers bron i 20 mlynedd, ac wedyn bydd Carwyn Jones yn penderfynu be fydd y camau nesaf.

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi dweud ym mis Hydref ei fod yn credu “nad oes bron unrhyw un sy’n dweud fod y strwythur presennol o 22 awdurdod lleol yn iawn i Gymru”.

Mae awdurdodau lleol Cymru yn gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus fel casglu sbwriel, gofal cymdeithasol, addysg a chynnal priffyrdd.

Pwyso a mesur

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwyned, Dyfed Edward ar y Post Cyntaf bore ’ma:

“Mae ‘na gost i ad-drefnu, ond mae ‘na gost i beidio ag ad-drefnu hefyd.

“Mae’n rhaid i ni bwyso a mesur beth fydd orau.”

Ond mae Ieuan Williams, arweinydd Cyngor Môn yn cwestiynu’r adroddiad gan ddweud fod tystiolaeth nad ydy cynghorau mawr, fel Cyngor Caerdydd, yn fwy llwyddiannus na rhai llai, fel Cyngor Dinbych:

“Ar hyn o bryd, dwi’n cwestiynu os welwn ni unrhyw arbedion o gwbl.

“Mae’n rhaid i ni edrych ar wledydd eraill i weld be sy’n eu gwneud nhw mor llwyddiannus ond dwi’n credu fod rhaid i ni wario arian ar atal cau canolfannau hamdden ac atal pobol rhag mynd yn sâl.

“Mae angen edrych ar yr adroddiad, gofyn y cwestiynau caled a chasglu tystiolaeth gref, fel nad ydan ni’n gwaethygu pethau hefo’r toriadau enfawr.”