Mae cwest wedi clywed heddiw ei bod hi’n debygol bod corff dyn oedrannus , a gafodd ei ddarganfod mewn tŷ yn Ynys Môn,  wedi bod yno ers tair blynedd.

Cafodd corff Hubert Basil Henry Bevan ei ddarganfod mewn byngalo yn Llandegfan ar Ynys Môn ym mis Hydref y llynedd.

Cafodd yr Heddlu eu galw i’r tŷ wedi i gymdogion ddweud eu bod yn poeni nad oedden nhw wedi ei weld ers peth amser.

Roedd gwraig y dyn, Pauline Bevan, yn byw yn y tŷ ar y pryd, a chlywodd y cwest ei bod hi wedi dweud wrth yr heddlu bod ei gŵr wedi cael trawiad ar y galon yn 2010.

Cadarnhawyd yn y cwest ei fod wedi marw o achosion naturiol.